Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Wel, mae hwnnw’n waith y byddaf yn ei wneud gyda'r Gweinidogion yn yr adran newid hinsawdd. Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae gennym ddiddordeb mawr mewn sicrhau bod ein rhwymedigaethau i ddyfodol y blaned yn cael eu cyflawni, ond mae elw economaidd gwirioneddol i'w gynhyrchu o hyn hefyd. Ac rwy'n ystyried pwynt yr Aelod ynghylch ymgysylltu â'r gymuned a pherchnogaeth ar rai o'r prosiectau ynni wrth symud ymlaen. Felly, ni fyddaf yn gallu rhoi ateb ichi heddiw, ond gallaf ddweud y byddaf yn parhau i weithio gyda Gweinidogion yn yr adran newid hinsawdd, nid yn unig i ddarparu ffordd well o gynhyrchu pŵer sy'n adnewyddadwy ac nad yw'n peryglu dyfodol y blaned, ond sydd hefyd yn gallu sicrhau difidend economaidd go iawn i gymunedau lleol.