Llwythi a Gludir gan Drenau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:59, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedais, mae hwn yn faes sy'n cael ei arwain gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Er nad yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli i raddau helaeth, rydym wedi sicrhau, fodd bynnag, fod grantiau cyfleusterau rheilffordd ar gael i helpu i ddatblygu rhai rhannau o'r seilwaith rheilffyrdd. Rwy’n siŵr y bydd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddiddordeb brwd yn eich pwynt, ac y bydd yn fwy na pharod i ysgrifennu atoch os oes materion pellach i’w hychwanegu at yr ateb rwyf eisoes wedi'i roi.