Economi Gorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:02, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, ac mae'n dda eich gweld, ar ôl absenoldeb gorfodol a dychweliad i'r lle hwn. Rydym yn cymryd camau eang i fuddsoddi mewn busnes. Nodais ddull wedi'i ddiweddaru o symud economi Cymru yn ei blaen yn y datganiad a roddais i'r Siambr ar 19 Hydref. Rydym eisiau buddsoddi mewn pobl a seilwaith a chefnogi economi decach, mwy gwyrdd a mwy llewyrchus yng Ngorllewin De Cymru a ledled y wlad wrth gwrs, gan weithio gyda'n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.