Economi Gorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:03, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Weinidog, os ydym eisiau i bobl De Orllewin Cymru brofi manteision economi sy’n tyfu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rwy'n sicr fod angen inni weld strategaeth sy’n canolbwyntio nid yn unig ar greu swyddi, ond swyddi ar gyflogau uwch, gan wobrwyo sgiliau ac ymrwymiad y bobl leol. A all y Gweinidog nodi faint o swyddi newydd y mae'n bwriadu eu cefnogi dros y pedair blynedd nesaf? A pha gyfran fydd ar gyflogau gwell? Diolch.