Yr Economi Werdd yn Nwyrain De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:08, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Yn ystod dadl Plaid Cymru fis diwethaf ar y sector ynni a’r argyfwng hinsawdd, cafwyd ymateb gan eich Llywodraeth a oedd yn awgrymu newid cadarnhaol o ran sicrhau bod y cyfoeth a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy yn cael ei gadw yng nghymunedau Cymru. Cyfeiriwyd at, ac rwy'n dyfynnu, 'astudiaeth ddofn' y diwrnod canlynol, i weld pa rwystrau y gellir eu goresgyn i gynyddu capasiti ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Mae gwir angen inni weld cynnydd mewn perthynas â pherchnogaeth gymunedol, oherwydd dangoswyd bod hyn yn allweddol mewn nifer o enghreifftiau rhyngwladol wrth newid agweddau'r cyhoedd tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Dair wythnos wedi’r ‘astudiaeth ddofn’ fel y'i galwyd, pa ddiweddariad y gallwch ei roi ar yr ymdrechion i sicrhau bod elw a buddion prosiectau ynni yng Nghymru yn aros yng Nghymru?