Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Weinidog, diolch am yr ateb hwnnw, a gallech ailadrodd y cwestiwn rwy'n ei ofyn am ardal fy mwrdd iechyd fy hun ar gyfer Cymru gyfan, lle nad oes un ateb, ond mae'n fater o gael yr adnoddau cywir ar draws yr ystod honno o ffactorau a fydd yn helpu i gyflymu’r broses o ryddhau cleifion. Ac wrth gwrs, mae hyn yn bwysig i gleifion yn yr ysbyty ac yn bwysig o ran rhyddhau gwelyau, ond hefyd o ran cael pobl adref, fel y gellir eu cefnogi i fyw'n annibynnol yn y lle y maent eisiau bod mor gyflym â phosibl. A allwch chi roi sicrwydd imi y byddwch yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â'r bwrdd iechyd i sicrhau bod yr adnoddau yn y lle iawn ar yr adeg iawn, a bod y gefnogaeth yno hefyd ar gyfer y sector gwirfoddol, fel Gofal a Thrwsio Cymru ac eraill, a'r timau cymorth cartref sy'n gwneud gwaith rhyngddisgyblaethol mor wych?