Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol i gefnogi prosesau rhyddhau cleifion a llif cleifion gwell, gan gynnwys yn ardal Cwm Taf Morgannwg. Rydym hefyd yn gweithio i fynd i'r afael â phroblemau gweithlu a chapasiti cyfredol ym maes gofal cymdeithasol i gynorthwyo’r broses o ryddhau cleifion yn gyflymach, gan gynnwys drwy'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal.