Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Weinidog, mae dadansoddiad o broffil oedran pobl â'r coronafeirws yn dangos bod 39 y cant o achosion o dan 19 oed a bod 27 y cant rhwng 10 a 19 oed. Mae etholwr wedi cysylltu â mi sydd ag aelod o'r teulu'n mynychu Ysgol Uwchradd Crughywel ac Ysgol Gyfun Trefynwy hefyd. Mae'r gofyniad i wisgo masgiau wyneb wedi'i gadw yn yr ystafelloedd dosbarth a'r coridorau yn Ysgol Uwchradd Crughywel, ond nid oes eu hangen yn Ysgol Gyfun Trefynwy. Mae fy etholwr yn gwneud y pwynt fod yr achosion o COVID bron ddwywaith cymaint yn Ysgol Gyfun Trefynwy na'r hyn ydynt yn Ysgol Uwchradd Crughywel. A ydych chi, Weinidog, wedi cynnal unrhyw astudiaethau o'r gwahaniaeth mewn cyfraddau COVID rhwng gwahanol ysgolion mewn ardaloedd cyfagos, a pha ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i wneud gwisgo masgiau wyneb yn orfodol mewn ysgolion uwchradd? Diolch.