Rhyddhau Cleifion o'r Ysbyty

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:27, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, pe bai eich Llywodraeth wedi darparu system iechyd a gofal cymdeithasol fwy integredig dros yr 20 mlynedd diwethaf, efallai y byddai cynlluniau rhyddhau cleifion o'r ysbyty wedi bod yn fwy effeithlon ac yn well ar gyfer gofal cleifion. Rydym yn gwybod bod rhai cleifion yn aros yn hwy yn yr ysbyty oherwydd yr amser y gall ei gymryd i asesu eu hanghenion. A yw'r Gweinidog wedi ystyried defnyddio gweithwyr proffesiynol eraill fel therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn y gymuned yn ychwanegol at y gweithlu gofal cymdeithasol, a beth am asesiadau cartref cyn llawdriniaeth ar gyfer y cleifion hyn? Os hoffai'r Gweinidog wybod mwy amdano, rwy’n hapus i'w drafod â hi. Diolch.