Rhyddhau Cleifion o'r Ysbyty

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:28, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, a diolch am y cynnig i'w drafod ymhellach; byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Hoffwn wneud y pwynt, yn y bôn, fod y broblem hon sydd gennym yng Nghymru gydag oedi cyn rhyddhau cleifion o'r ysbyty a'r system gofal cymdeithasol yn broblem sydd i’w gweld ledled y DU. Clywais ar Radio 4 y bore yma am y problemau mawr y maent yn eu cael yn Lloegr, felly nid yw hyn yn unigryw i Gymru. Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw ceisio dod o hyd i ateb iddo, ac rydym yn gweithio’n galed iawn i geisio gwneud hynny. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau yn cyfarfod yn wythnosol â chynrychiolwyr o'r byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol i geisio dod o hyd i ffordd i fynd i'r afael â'r oedi niweidiol hwn cyn rhyddhau o'r ysbyty. Ac felly, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu, ond mae'n broblem ledled y DU.