Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Dirprwy Weinidog, mae fy nghwestiwn i yn ddilyniant mewn gwirionedd i gwestiwn Mr Hussain, ac rŷn ni'n ffodus iawn o'i arbenigedd e yn y Senedd yma. Mae fy nghwestiwn i ynglŷn ag wythnos nesaf, bydd y grwp trawsbleidiol ar ddementia yn cyhoeddi adroddiad ynglŷn â gofal ysbyty, ac un argymhelliad yw slotiau penodol i adael i bobl sy'n dioddef o ddementia adael yr ysbyty. Y rheswm am y slotiau penodol hynny yw i sicrhau bod cartrefi gofal, gofalwyr a theuluoedd yn cael cyfle i drafod y rhyddhau o'r ysbyty ac i gyfrannu at hynny. Argymhelliad arall yw sicrhau bod yna dimoedd i adael i bobl adael yr ysbyty a bod y timoedd yna'n sicrhau wedyn bod y gwaith papur, y meddyginiaeth a'r drafnidiaeth yn eu lle yn barod pan fydd y person yn gadael yr ysbyty. Fel rŷch chi'n gwybod, mae'n hanfodol cael y cydweithio agos yma rhwng y sector iechyd a'r sector gofal cymdeithasol. A wnewch chi, a hefyd y Gweinidog iechyd a'r Dirprwy Weinidog iechyd meddwl, edrych yn fanwl ar yr adroddiad yma a'r argymhellion a gweithredu arnyn nhw? Diolch yn fawr.