Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Ar fater COP26, nodais eich trydariad am Brif Weinidog y DU yn eistedd wrth ymyl Syr David Attenborough heb fasg wyneb ac yn ymddangos fel pe bai'n cysgu. Y geiriau a ddefnyddioch chi i ddisgrifio Johnson yn eich trydariad oedd, ac rwy'n dyfynnu, 'gwarth cenedlaethol'. Nid wyf yn dadlau ynglŷn â hynny, ond yr hyn y mae gennyf broblem ag ef yw ffydd eich Llywodraeth y bydd San Steffan yn cyflwyno ymchwiliad COVID amhleidiol, hollgynhwysol, ar gyfer y DU, pan fo'r dyn sy'n gyfrifol amdano, yn eich geiriau chi, yn 'warth cenedlaethol'. Neu a yw eich ffydd yn y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan ond yn bodoli pan fydd yn gyfleus?