Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:31, 3 Tachwedd 2021

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Gareth Davies.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Mae gennym argyfwng ym maes gofal cymdeithasol, onid oes, a chredaf fod hynny'n ffaith—argyfwng a achoswyd gan ddiffyg staff. Ni allwn recriwtio digon o bobl i weithio yn y sector gofal, oherwydd, a dweud y gwir, nid yw'r cyflog a'r amodau'n ddeniadol. Ddirprwy Weinidog, fe wyddoch fy marn am gyflog gweithwyr gofal a'r ffaith y dylem fwrw ymlaen i godi cyflogau. Fodd bynnag, mae pethau wedi newid ers y tro diwethaf inni drafod hyn. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r gronfa gofal cymdeithasol a bydd cyllideb yr wythnos diwethaf yn golygu biliynau o bunnoedd yn ychwanegol i Gymru bob blwyddyn. Pryd y bydd gweithwyr cartrefi gofal yn gweld cyflog byw go iawn, Ddirprwy Weinidog? Gwn eich bod wedi sôn o'r blaen ei fod yn £9.50, ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi bod yn galw am isafswm cyflog o £10 i weithwyr cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol. Felly, a oes unrhyw gynnydd tuag at weld hynny'n dwyn ffrwyth?

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:32, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rydym yn derbyn bod problemau gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol ac mae'n anodd iawn recriwtio ar hyn o bryd. Y rheswm y mae mor anodd recriwtio yw bod swyddi mwy deniadol wedi dod ar gael yn ddiweddar yn y sector manwerthu neu yn y sector lletygarwch i rai gweithwyr gofal. Mae'n anodd iawn denu pobl i'r maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Ond rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r cyflog byw go iawn. Cyhoeddir y diweddariad i'r cyflog byw go iawn ar 15 Tachwedd, er fy mod yn credu bod angen inni aros i weld faint yn union y bydd. Rydym am i hyn gael ei gyflwyno cyn gynted ag y gellir yn y tymor hwn. Rydym yn edrych tuag at gyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, pan fyddwn yn gallu gwneud rhagor o gyhoeddiadau ynglŷn â sut y byddwn yn symud ymlaen, yn enwedig yn dilyn cyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:33, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Bydd unrhyw oedi cyn gwella cyflog ac amodau staff yn parhau i gael effaith ar recriwtio. Teimlir yr effaith hon gan ein GIG a'n byrddau iechyd lleol, sy'n cymryd sylw ac yn gweithredu'n briodol. Mae rhai byrddau iechyd bellach yn ystyried cyflogi staff gofal yn uniongyrchol. Fodd bynnag, yn hytrach na helpu i fynd i'r afael â'r broblem, mae'r sector gofal o'r farn fod hyn yn arwain at ddwyn staff gan y GIG, sy'n cynnig gwell cyflogau ac amodau. Ddirprwy Weinidog, rydym i fod i integreiddio iechyd a gofal, nid gwneud iddynt gystadlu â'i gilydd. Sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw'r cynlluniau peilot hyn gan fyrddau iechyd lleol yn creu prinder yn y sector gofal? Diolch.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:34, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Mae hyn yn amlwg yn berygl a all ddigwydd. Fel y gwyddoch, rydym wedi sefydlu'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol, sydd wedi cynhyrchu eu hadroddiad yn ddiweddar ynghylch sut y byddwn yn cyflawni'r cyflog byw go iawn ac mae hwnnw'n cael ei ystyried gan swyddogion ar hyn o bryd. Gobeithio y byddwn yn gallu cyhoeddi rhywbeth ar hynny'n fuan. Felly, mae hynny ar fin digwydd. Ond wrth gwrs, mae'n fwy na chyflog yn unig, mae'n ymwneud â thelerau ac amodau a'r holl bethau eraill. Fel y dywedwch, mae amodau staff y GIG yn llawer gwell nag amodau staff gofal cymdeithasol. Felly, credaf fod yn rhaid inni wneud pob ymdrech i roi hwb i'r proffesiwn gofal cymdeithasol. Drwy'r pandemig, o leiaf, credaf fod pobl bellach yn ymwybodol o beth yw gofal cymdeithasol, a chredaf fod gwerthfawrogiad o'r hyn y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud, ac rydym yn benderfynol o gynnal statws y proffesiwn. Un o'r pethau a wnaethom yw cofrestru'r proffesiwn; mae pob gweithiwr gofal cartref bellach wedi'i gofrestru, sy'n gwella statws y proffesiwn, ac rydym yn symud ymlaen at weithwyr gofal preswyl yn awr, i wneud yr un peth yno. Credaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw gwella statws y proffesiwn, dangos ein bod yn gwerthfawrogi gwaith y gweithwyr gofal cymdeithasol. Gwnaethom ddau daliad iddynt yn ystod cyfnod y pandemig, a gwn eu bod yn ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth i'r hyn y maent yn ei gyfrannu. Rwy'n credu mai dyna sy'n rhaid inni ei wneud.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:36, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch eto am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. I newid cyfeiriad ychydig, ac ehangu ychydig mwy ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion hyn fyddai cwblhau'r broses o integreiddio iechyd a gofal. Roedd creu prif swyddog gofal cymdeithasol i Gymru i fod i gyflymu'r ymdrechion integreiddio, fel y sonioch chi yn y pwyllgor iechyd yn ddiweddar. Mae Mr Heaney wedi bod yn ei swydd ers cyn yr haf. Wrth inni fynd i mewn i fisoedd y gaeaf, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr hon ynglŷn â sut y mae'r rôl yn helpu ymdrechion i ddod â gofal cymdeithasol a'n GIG at ei gilydd mewn un gwasanaeth iechyd a gofal integredig? Diolch.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Hyd yma, rwy'n credu ei fod wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae Mr Heaney wedi bod yn gwneud ymarfer gwrando. Mae wedi bod yn ymwneud â sawl agwedd wahanol ar y system gofal cymdeithasol, mae wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei deimlo am eu hamodau gwaith, am yr hyn y maent am ei wneud, am integreiddio ag iechyd, sut y gall y ddau gydweithio. A thrwy ei gael yn y swydd hon, credaf fod pobl yn teimlo bod gofal cymdeithasol yn cael ei gydnabod. Mae gennym brif swyddog meddygol, ac yn awr mae gennym brif swyddog gofal cymdeithasol. Mae'r prif swyddog gofal cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda'r prif swyddog meddygol, a chredaf fod cael prif swyddog gofal cymdeithasol yn ddechrau addawol iawn. Felly, byddwn yn dweud bod llawer o gynnydd wedi'i wneud ers iddo ddechrau yn ei swydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:37, 3 Tachwedd 2021

Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Oni bai bod eich pen wedi'i gladdu yn y tywod, fe fyddwch yn ymwybodol fod COP26 ar y gweill yn Glasgow yr wythnos hon. Mae llygredd aer yn agwedd bwysig ar yr argyfwng hinsawdd yma yng Nghymru, oherwydd dyna sydd i'w gyfrif am 1,400 o farwolaethau ac mae'n costio £1 biliwn y flwyddyn i GIG Cymru. O fewn fy rhanbarth i, wrth inni siarad mae rhes o dai newydd gael ei dymchwel am nad ydynt yn addas i bobl fyw ynddynt mwyach, oherwydd llygredd aer. Mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at aer glân fel maes roedd yn gobeithio gweithio arno gyda phleidiau eraill, ac y byddai hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Er hynny, pan gyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ei raglen ddeddfwriaethol, nid oedd wedi'i gynnwys. I Lywodraeth sy'n brolio ei chymwysterau gwyrdd, yn yr achos hwn mae gennym ddull strategol o weithredu ond heb fod unrhyw frys i wneud hynny. A yw'r Gweinidog yn poeni, fel minnau, y bydd unrhyw oedi pellach gyda'r Bil aer glân yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles miloedd o bobl yng Nghymru? Yn ystod wythnos COP26, a ydych yn cytuno ei bod yn bryd gweld gweithredoedd nid geiriau, a sicrhau yn benodol fod digon o fuddsoddiad i helpu'r rhai sy'n dioddef o ganlyniadau llygredd aer?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:39, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Peredur. Gallaf eich sicrhau fy mod ar adegau yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ysu am gael claddu fy mhen yn y tywod, ond nid yw hynny'n wir. Ar fater llygredd aer, rydym yn sicr yn ymwybodol iawn—a byddwch wedi fy nghlywed yn ymateb yn y ddadl ddoe ar newid hinsawdd—o'r modd y mae llygredd aer yn rhywbeth rydym yn ei ystyried yn gysylltiedig â newid hinsawdd. Felly, mae'n bwysig inni fynd i'r afael â'r broblem. Rhaid inni ddeall, mewn perthynas â'r GIG, fod newid hinsawdd yn galw am fwy na newid y ffordd yr adeiladwn ein hysbytai ac yr adnewyddwn ein hysbytai, sicrhau eu bod wedi'u hinswleiddio, gosod bylbiau golau LED newydd, a'r holl bethau eraill hynny y bwriadwn eu gwneud. Rhaid inni gydnabod hefyd fod newid hinsawdd yn arwain at ganlyniad, canlyniad i iechyd, ac rydych yn iawn i ddweud bod llygredd aer yn un o'r canlyniadau hynny. Gallaf eich sicrhau, ar fater Bil aer glân, fod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch. Rydym wrthi'n penderfynu ar hyn o bryd pa Filiau sy'n cael blaenoriaeth, ac rwy'n siŵr y bydd cyhoeddiad ar hynny yn y dyfodol agos iawn.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ar fater COP26, nodais eich trydariad am Brif Weinidog y DU yn eistedd wrth ymyl Syr David Attenborough heb fasg wyneb ac yn ymddangos fel pe bai'n cysgu. Y geiriau a ddefnyddioch chi i ddisgrifio Johnson yn eich trydariad oedd, ac rwy'n dyfynnu, 'gwarth cenedlaethol'. Nid wyf yn dadlau ynglŷn â hynny, ond yr hyn y mae gennyf broblem ag ef yw ffydd eich Llywodraeth y bydd San Steffan yn cyflwyno ymchwiliad COVID amhleidiol, hollgynhwysol, ar gyfer y DU, pan fo'r dyn sy'n gyfrifol amdano, yn eich geiriau chi, yn 'warth cenedlaethol'. Neu a yw eich ffydd yn y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan ond yn bodoli pan fydd yn gyfleus?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:41, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Fe fyddwch yn ymwybodol mai cyd-destun y llun hwnnw oedd bod Boris Johnson yn eistedd wrth ochr ein trysor cenedlaethol, David Attenborough, a oedd yn effro ac yn talu sylw, yn wahanol i'n Prif Weinidog, a oedd yn cysgu. Credaf ei bod yn bwysig inni ddeall wrth gwrs fod yna adegau pan fydd angen inni weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU, ac mewn gwirionedd, mae newid hinsawdd yn enghraifft dda o ble mae angen inni ddeall ein bod i gyd wedi ein cydgysylltu, nid yn unig â'r Deyrnas Unedig ond â gweddill y blaned. Yn sicr, o ran COVID, mae angen inni ddeall na allwn dynnu llinell o amgylch Cymru a meddwl ei fod yn ymwneud â sut y llwyddasom i reoli'r feirws neu beidio o fewn ein ffin yng Nghymru. Gwyddom, er enghraifft, fod yr amrywiolyn delta wedi'i gyflwyno o India. Hyd yn oed pe baem am gau'r ffiniau ag India, ni fyddem wedi gallu gwneud hynny, a dyna'r amrywiolyn amlycaf yng Nghymru. Felly, mae meddwl y gallem gael ein hymchwiliad annibynnol ein hunain—byddai'n anodd iawn inni beidio ag edrych ar y mathau hynny o faterion a deall y rhyng-gysylltedd, a dyna pam y mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud yn gwbl glir mai ei ddewis ef yw cael ymchwiliad y DU gyda mandad clir iawn o'i fewn ar gyfer Cymru. Fe'i clywais yn gofyn i Brif Weinidog y DU am hynny yn bersonol ar fwy nag un achlysur, ac mae'n bwysig iawn fod y Prif Weinidog yn awr, Boris Johnson, yn bwrw ymlaen â hynny ac yn ymrwymo i gyflawni'r math o ymrwymiadau roedd Prif Weinidog Cymru yn gofyn iddo eu cyflawni mewn perthynas â'r ymchwiliad hwnnw.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:43, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, a chyfarfûm â hwy eto heddiw; maent yn y Senedd heddiw, ac mae ganddynt lawer o gwestiynau heb eu hateb. Nid oes ganddynt fawr o ffydd y bydd ymchwiliad ledled y DU yn rhoi'r holl atebion y maent yn ysu amdanynt er mwyn rhoi tawelwch meddwl iddynt ar ôl marwolaeth perthynas agos. Mae un o'r prif gwestiynau sydd ganddynt yn ymwneud â marwolaethau o COVID-19 a ddaliwyd yn yr ysbyty. Dywedodd un ymgyrchydd wrthyf fod ei thad wedi marw o COVID ar ôl cael ei anfon adref o'r ysbyty yn dilyn triniaeth am haint ar goden y bustl. Yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, daeth i gysylltiad â 13 o gleifion, tri yn yr un ystafell, a 14 o staff ar ei ward. Ac eto, cafodd ei anfon adref heb gael ail brawf ac ni chafodd y teulu wybod am ei gysylltiad a'i risg bosibl o ddal COVID-19. Oni chredwch fod gwersi i'w dysgu o ymchwiliad cyhoeddus llawn i ddull Cymru o fynd i'r afael â'r coronafeirws, ac oni chredwch ei bod yn bwysig inni ddysgu gwersi o hyn? Oni ddylech fod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Vaughan Gething ychydig funudau'n ôl—ei bod yn bryd gwneud eich gwaith a sefyll dros Gymru?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:44, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, a dweud y gwir, nid wyf yn siŵr a allwn weithio'n galetach yn fy swydd nag a wnaf ar hyn o bryd, ond gallaf ddweud wrthych ein bod yn gwybod bod gennym wersi i'w dysgu mewn perthynas â COVID a'r ffordd y mae'r pandemig wedi creu llanast yn ein cymunedau. Wrth gwrs bod gennym wersi i'w dysgu, oherwydd mae hwn yn feirws newydd; nid oedd neb yn gwybod amdano. Rydym yn dal i ddysgu amdano. Ceir is-amrywiolyn newydd o delta, yr AY4.2. Rydym yn dal i ddysgu. Mae'n dal i newid. Wrth gwrs bod gennym bethau i'w dysgu. Byddwn yn dysgu'r gwersi hynny, ac rydym yn dysgu'r gwersi hynny. Ar ôl pob marwolaeth COVID yn yr ysbyty ceir asesiad i weld beth y gallem fod wedi'i ddysgu o hynny. Ond nid ydym yn aros i'r ymchwiliad i hynny ddigwydd; mae ymchwiliadau'n digwydd yn gyson fel ein bod yn dysgu wrth inni fynd yn ein blaenau. Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn sensitif i'r ffaith bod miloedd o bobl yn llythrennol bellach yn galaru yng Nghymru am anwyliaid a ddaliodd y feirws, ac mae'n arbennig o drist os mai yn yr ysbyty y gwnaethant ddal y feirws.

Rwyf wedi bod yn gwrando ar lawer o bodlediadau dros hanner tymor, podlediadau rhyngwladol a soniai am y posibilrwydd o ynysu pobl agored i niwed, ac yn enwedig mewn cartrefi gofal, er enghraifft, a'r hyn a ddywedai'r podlediadau oedd nad oedd neb, mewn gwirionedd, wedi llwyddo i wneud hynny. Ni allech ynysu pobl agored i niwed am eu bod yn rhan o gymdeithas, ac mae pobl yn gweithio mewn ysbytai, mae yna fynd a dod, ac mae'n anodd iawn ynysu pobl oddi wrth bobl sy'n gweithio mewn ysbytai sydd angen mynd adref yn y nos at eu hanwyliaid hwythau hefyd. Felly, wrth gwrs ei bod hi'n anodd, ac wrth gwrs bod raid inni hefyd fod yn sensitif i'r ffaith fod yna bobl sydd am fynd i ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty. Mae cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn yn wirioneddol anodd, ac wrth gwrs y bydd gwersi i'w dysgu, ac rydym yn dysgu'r gwersi hynny, ond mae'n debygol y bydd gennym fwy o wersi i'w dysgu wrth inni fwrw yn ein blaenau gan nad yw'r pandemig hwn ar ben.