Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Cytunaf yn llwyr â chi a chredaf fod hwn yn fath creulon iawn o ganser, wrth gwrs, a chredaf y dylem gofio’r bobl a gollodd eu bywydau oherwydd y canser creulon iawn hwn.
Rwy’n falch o ddweud ein bod yn rhagori'n gyson ar y targedau roeddem wedi’u gosod o ran nifer y bobl sy'n derbyn y gwahoddiad i gael eu sgrinio ar gyfer y canser hwnnw. Felly, mae oddeutu 65 y cant, er mai oddeutu 60 y cant oedd ein targed, felly rwy'n falch o weld hynny'n digwydd; mae bob amser yn dda gweld cynnydd y tu hwnt i hynny, ond credaf fod angen inni bwysleisio bod sgrinio'n rhan hanfodol o'r diagnosis cynnar hwnnw, a gorau po gyntaf y byddwch yn canfod canser, gan y gallwn ei drin yn gyflymach.