Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn. Hyd yma, rwy'n credu ei fod wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae Mr Heaney wedi bod yn gwneud ymarfer gwrando. Mae wedi bod yn ymwneud â sawl agwedd wahanol ar y system gofal cymdeithasol, mae wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei deimlo am eu hamodau gwaith, am yr hyn y maent am ei wneud, am integreiddio ag iechyd, sut y gall y ddau gydweithio. A thrwy ei gael yn y swydd hon, credaf fod pobl yn teimlo bod gofal cymdeithasol yn cael ei gydnabod. Mae gennym brif swyddog meddygol, ac yn awr mae gennym brif swyddog gofal cymdeithasol. Mae'r prif swyddog gofal cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda'r prif swyddog meddygol, a chredaf fod cael prif swyddog gofal cymdeithasol yn ddechrau addawol iawn. Felly, byddwn yn dweud bod llawer o gynnydd wedi'i wneud ers iddo ddechrau yn ei swydd.