Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:37, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Oni bai bod eich pen wedi'i gladdu yn y tywod, fe fyddwch yn ymwybodol fod COP26 ar y gweill yn Glasgow yr wythnos hon. Mae llygredd aer yn agwedd bwysig ar yr argyfwng hinsawdd yma yng Nghymru, oherwydd dyna sydd i'w gyfrif am 1,400 o farwolaethau ac mae'n costio £1 biliwn y flwyddyn i GIG Cymru. O fewn fy rhanbarth i, wrth inni siarad mae rhes o dai newydd gael ei dymchwel am nad ydynt yn addas i bobl fyw ynddynt mwyach, oherwydd llygredd aer. Mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at aer glân fel maes roedd yn gobeithio gweithio arno gyda phleidiau eraill, ac y byddai hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Er hynny, pan gyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ei raglen ddeddfwriaethol, nid oedd wedi'i gynnwys. I Lywodraeth sy'n brolio ei chymwysterau gwyrdd, yn yr achos hwn mae gennym ddull strategol o weithredu ond heb fod unrhyw frys i wneud hynny. A yw'r Gweinidog yn poeni, fel minnau, y bydd unrhyw oedi pellach gyda'r Bil aer glân yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles miloedd o bobl yng Nghymru? Yn ystod wythnos COP26, a ydych yn cytuno ei bod yn bryd gweld gweithredoedd nid geiriau, a sicrhau yn benodol fod digon o fuddsoddiad i helpu'r rhai sy'n dioddef o ganlyniadau llygredd aer?