Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Weinidog, diolch am eich datganiad ac am gyflwyno'r Bil hwn yn ffurfiol. Mae'r Bil yn rhoi cyfle i ni yng Nghymru lunio addysg drydyddol fel ei bod yn cyd-fynd â'r anghenion penodol yma yng Nghymru, ac i sicrhau bod ein dysgwyr yng Nghymru yn derbyn addysg drydyddol o'r ansawdd y maent yn ei haeddu a'r cymorth sydd ei angen arnynt ar eu teithiau addysgol.
Mae'n wych gweld y byddwn, am y tro cyntaf yn neddfwriaeth Cymru, yn dod ag addysg uwch, addysg bellach, dosbarth chwech ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned at ei gilydd mewn un man yng Nghymru, yn ogystal â chyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi, ac rydym yn croesawu hynny ar y meinciau hyn.
Ond mae'r sector addysg drydyddol yn dal i ymadfer—mae'n ddrwg gennyf, mae fy llwnc yn mynd—ar ôl 18 mis o darfu difrifol. Mae darparwyr addysg wedi blino'n lân wrth iddynt geisio cadw ysgolion a cholegau ar agor oherwydd lefelau uchel o absenoldeb staff. Felly, mae'n rhaid imi gwestiynu'r amseru ar gyfer hyn, a gofyn efallai, 'Pam nawr?'—pam, a ninnau ar bwynt tyngedfennol yn y pandemig hwn ac ar gychwyn cwricwlwm newydd? A byddwn yn gwerthfawrogi sicrwydd y Gweinidog ar hynny.
Yn y gorffennol, mae ColegauCymru wedi codi sawl pryder ynghylch cyflwyno'r Bil addysg drydyddol ac ymchwil, gyda phwyslais ar ddiffyg cynlluniau diogelu dysgwyr a chod ymgysylltu â dysgwyr. Felly, rwy'n falch o weld bod y rhain bellach wedi'u cynnwys yn y Bil.
Byddai hefyd yn wych clywed mwy am y penodiadau i'r bwrdd—y profiad a'r niwtraliaeth a phethau felly—y gofynion er mwyn bod yn aelod ohono. Rydym yn croesawu cyflwyno cynrychiolwyr dysgwyr ar y bwrdd wrth gwrs, a chredaf fod hwnnw'n syniad gwych. Tybed sut olwg fydd ar hyn yn ymarferol? A fydd yr aelodau hyn yn cael eu penodi, eu hethol, eu cyflogi? A fydd y rhain yn swyddi am dâl, lle bydd disgwyl iddynt fynychu pob cyfarfod? Bydd lefelau atebolrwydd yr unigolion hyn yn sylweddol wrth gwrs, o ystyried eu swydd a chyfrifoldeb ariannol y bwrdd hwn. Felly, byddai mwy o wybodaeth am hynny'n wych.
Nid yw meddu ar sgil allweddol neu gymwysterau penodol yn sicr o arwain at swydd bellach, ond mewn perthynas â darpariaethau addysg bellach 16-19 oed, mae cyllid a sicrhau ansawdd yn dibynnu ar un dull gweithredu, sy'n seiliedig ar gynnydd y dysgwr a'u canlyniadau, wrth wraidd y Bil hwn. Nid diogelu'r ddarpariaeth bresennol yw'r her, ond yn hytrach, creu llwybrau effeithiol ar gyfer gwneud cynnydd. Un ffordd y credwn y gallwn fynd i'r afael â'r broblem hon fyddai cynllunio'r cwricwlwm yn well ar gyfer y grŵp oedran 14-19 a datblygu llwybrau cyfannol ar gyfer cynnydd dysgwyr. Weinidog, os gwelwch yn dda, a wnewch chi nodi a ydych wedi archwilio'r pryderon hyn a sut y bwriadwch weithio i greu dull mwy cydgysylltiedig ar gyfer pontio rhwng yr ysgol ac addysg bellach? Diolch.
Yn ogystal, er ein bod yn croesawu cynnwys colegau chweched dosbarth yn y Bil, mae'n dal i fod yn aneglur yn y Bil sut y bydd y diwygiadau arfaethedig i addysg ôl-16 yn ategu ac yn gwella'r cwricwlwm newydd ac yn sicrhau parhad ac ymgysylltiad rhwng darparwyr addysg cyn-16 ac ôl-16, yn enwedig o gofio'r rhwystrau y mae darparwyr addysg wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig hwn. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Weinidog, pe gallech amlinellu pa fesurau y byddwch yn eu rhoi ar waith i sicrhau'r cysylltiad di-dor hwnnw rhwng y ddau.
Bydd COVID hefyd yn cael effaith barhaol ar fywydau dysgwyr ledled Cymru am flynyddoedd lawer. Tri ffactor y teimlaf fod angen mynd i'r afael â hwy yw'r effaith ar bobl ifanc sydd heb allu cael cyflogaeth uniongyrchol a phrofiad gwaith; gwell dealltwriaeth o sut y mae pobl yng ngharfan 2020-21 wedi pontio o'r ysgol i bob math o addysg ôl-16; a sut y darperir cymorth i bobl â chyrhaeddiad addysgol canolig ac is sydd wedi wynebu mwy o anawsterau wrth gamu ymlaen i addysg bellach. Felly, Weinidog, a allech amlinellu pa gynlluniau y bwriadwch eu rhoi ar waith i gefnogi'r bobl yn y grwpiau hyn?
Amlygodd adroddiad diweddar gan y Ganolfan Gwybodaeth a Chydlynu Tystiolaeth ar gyfer Polisi ac Ymarfer, yr EPPI, bryderon ynghylch chwyddo graddau yn 2020 a 2021, sydd wedi arwain at fwy o gystadleuaeth am leoedd mewn prifysgolion, tra bo lefelau cyfranogiad mewn dysgu galwedigaethol wedi gostwng.
Ac yn olaf, rydym yn croesawu'r newidiadau i brentisiaethau wrth gwrs, a chredaf fod angen mwy o reolaeth yma. Mae angen inni ganolbwyntio mwy o lawer ar brentisiaethau mewn gwirionedd, a'r potensial sydd ganddynt i ddarparu swyddi'r dyfodol, gan gynnwys swyddi gwyrdd a swyddi medrus iawn. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y sector yn amrywiol er mwyn gwella cyfleoedd a chyflwyno targedau mwy trylwyr i ehangu'r rhaglen brentisiaeth i fwy o bobl, gan ei gwneud yn fwy ymatebol i anghenion ein cymunedau lleol, ein busnesau a'n heconomi. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu pa ddarpariaethau a ystyriwyd ar gyfer y grŵp oedran 14-16, gan fod rhai colegau'n gweithio gyda hwy ar fentrau fel y prentisiaethau iau.
Weinidog, ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd dysgu gydol oes yn yr oes sydd ohoni. Mae dysgu gydol oes yn rhan bwysig o addysg ôl-16 ac addysg i oedolion, ac mae angen pwysleisio hyn er mwyn tynnu sylw at ei bwysigrwydd yn y dyfodol.
Yn olaf, mae'r heriau y mae pobl wedi'u hwynebu drwy gydol y pandemig wedi ysgogi llawer o bobl i ddysgu sgiliau newydd a chael cymwysterau newydd, sydd wedi arwain at ragolygon cyflogaeth gwell. Felly, mae'n amlwg fod yr awydd yno. Mae hefyd yn ymwneud â chyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol wrth i'r farchnad gyflogaeth addasu a newid o'n cwmpas. Ond mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud cyfleoedd dysgu gydol oes ac ailhyfforddi yn hygyrch, yn ymarferol ac yn gosteffeithiol i bobl allu manteisio arnynt, a'u bod yn darparu cyfle cyfartal. Mae angen iddynt gydweddu â bywydau bob dydd pobl. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r sector addysg bellach a'r sector addysg uwch i ganfod sut y gellid cyflawni hyn ac mewn ffordd hygyrch? Diolch.