Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Wel, diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'r ffordd adeiladol y mae'n ymgysylltu â'r ystod o faterion, a chredaf fod yr ystod o gwestiynau y mae'n eu gofyn yn dangos ehangder y Bil a maint yr her a'r cyfle rydym yn ceisio sicrhau bod ein sectorau yn y sefyllfa orau i ymgysylltu â hwy.
Ar y cwestiwn pwysig ynghylch amseru, rwy'n deall yn iawn y cyd-destun ar gyfer y cwestiwn y mae'r Aelod yn ei ofyn, ond credaf fod y cydlifiad a'r cyd-destun rydym ynddo'n gwneud yr angen am y Bil yn fwy dybryd, mewn gwirionedd—felly, yn amlwg, soniodd am COVID, sy'n bwysig, ond dyma wythnos y COP, ac rydym yn deall yr effaith drawsnewidiol y mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein cymdeithas, ar ein heconomi; ein perthynas newydd â'r Undeb Ewropeaidd; yr angen y cyfeiriodd ato yn ei chwestiwn i wella darpariaeth dysgu gydol oes wrth i bobl aros mewn gwaith am gyfnod hirach, ond efallai y bydd angen iddynt addasu eu sgiliau yn amlach yn ystod eu bywyd gwaith ac ymdopi â chyfnodau pan fyddant allan o waith; a'r her ddigidol hefyd. Mae pob un o'r rheini'n dod ynghyd ar yr un pryd. Mae unrhyw un ohonynt yn her sylweddol. Felly, credaf fod cydlifiad y pethau hynny'n cynnig cyfleoedd yn ogystal â heriau, sydd, yn fy marn i, yn gwneud yr amseru'n gwbl briodol ar gyfer y Bil hwn.
Mae'n codi pwynt pwysig am gyfansoddiad y bwrdd. Bydd y broses o benodi pobl yn aelodau o'r bwrdd yn dilyn y llwybr penodiadau cyhoeddus yn y ffordd arferol, a bydd angen ystod o sgiliau ar y bwrdd o ystod o gefndiroedd, o addysg ond hefyd o ddiwydiant a thu hwnt. Felly, bydd y penodiadau cychwynnol yn cynnwys y cadeirydd, y dirprwy gadeirydd, y prif weithredwr ar gyfer y penodiad cyntaf, a'r bwrdd, gan Lywodraeth Cymru drwy'r broses benodiadau cyhoeddus, a gobeithiaf y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddi. O ran yr aelodau cyswllt, sef y rhai y cyfeiriais atynt yn fy araith, mater i'r comisiwn ei hun fydd hynny.
Credaf iddi godi set bwysig o bwyntiau ynglŷn â'r berthynas rhwng ysgolion a'r sector ôl-16, ac wrth gwrs, mae'r chweched dosbarth yng nghanol y diagram Venn hwnnw mewn sawl ffordd. A chredaf mai dyna pam ei bod yn bwysig fod y Bil yn dod â'r chweched dosbarth o fewn cwmpas y comisiwn, er yn anuniongyrchol ar ryw ystyr, gan y credaf y bydd hynny'n arwain at set fwy cydlynol o drefniadau. A chredaf ei bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â sicrhau bod addysg cyn-16 ac ôl-16 yn fath o daith ddi-dor yn yr ystyr hwnnw, a chredaf mai nod y Bil hwn yw darparu rhywfaint o gydlyniant. Credaf fod y berthynas â'r chweched dosbarth yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau'r parhad a'r continwwm dysgu yn y ffordd y mae'n disgrifio.
Gwnaeth nifer o bwyntiau mewn perthynas ag effaith COVID, fel y credaf—. Rydym yn monitro cynnydd y carfannau yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol mewn ffordd gyfnodol iawn, ac rydym wedi cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth eisoes am gyrhaeddiad, am gyrsiau y mae pobl yn mynd i'w dilyn, y perfformiad ac ati, gan ein bod yn cydnabod, fel hithau, rwy'n gwybod, yr effaith benodol ar y garfan honno. A chredaf y bydd y wybodaeth honno'n ased yn y gwaith y gall y comisiwn ei wneud.
Soniodd am bwysigrwydd sicrhau bod gan bawb fynediad at y cyfleoedd y bydd y Bil yn eu gwella, a chan gynnwys y rheini yr effeithiwyd arnynt yn fwyaf uniongyrchol gan COVID, ac rwy'n cytuno'n llwyr. Un o ddyletswyddau allweddol y comisiwn yw'r ddyletswydd cyfle cyfartal, gyda'r nod o sicrhau bod pob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir, yn gallu ffynnu hyd eithaf eu gallu ym mhob rhan o'r sector trydyddol, a gwn y bydd yn rhannu'r uchelgais honno.
Mewn perthynas â phrentisiaethau, credaf y bydd y Bil hwn yn trawsnewid gallu ein system brentisiaethau i fod yn ymatebol yn y ffordd y mae ei chwestiwn yn ei hannog i fod. Mae rhaglen fuddsoddi sylweddol iawn gennym fel Llywodraeth mewn perthynas â phrentisiaethau, a chredaf fod bod yn hyblyg, a gallu ymateb i anghenion yr economi mewn ffordd uniongyrchol yn ganolog i hynny, a bydd y Bil yn cefnogi hynny.
Yn olaf, mae'n nodi set o bwyntiau pwysig mewn perthynas â dysgu gydol oes. Unwaith eto, un o ddyletswyddau allweddol y comisiwn yw hyrwyddo hynny. Rydym yn disgwyl derbyn gwaith cyn bo hir gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a fydd yn ein cynorthwyo i ddeall yn well beth yw'r cyfleoedd mewn perthynas â dysgu gydol oes, a bydd wedi gweld yn y Bil fod y mecanwaith cyllido ar gyfer addysg bellach yn cynnwys mecanwaith sy'n galluogi i hynny gael ei ehangu'n gynyddol i wireddu'r ddarpariaeth gydol oes honno.