Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Mae llawer am y Bil yma rŷn ni'n ei groesawu, ond fe godwyd nifer o bryderon gan randdeiliaid ynghylch y Bil, sy'n amrywio o ansicrwydd ynghylch y comisiwn newydd a'i berthynas â'r Llywodraeth a darparwyr dysgu, cynllunio a chyllido, lles a llais dysgwyr, sicrhau ansawdd a rhyddid academaidd. O ystyried nifer ac amrywiaeth y pryderon yma a drosglwyddwyd gan randdeiliaid, byddai'n berthnasol efallai gofyn rhai cwestiynau ynghylch y broses ymgynghori. Mae NUS Cymru, er enghraifft, o'r farn bod cyfle gwirioneddol wedi'i golli fan hyn i ymgorffori partneriaeth wirioneddol â dysgwyr ar draws y sector ôl-16, a bod hyn wedi'i adlewyrchu yng ngeiriad fframwaith strategol y Bil, lle mae yna absenoldeb—does yna ddim lot o gyfeirio at lais y dysgwyr—ac, er enghraifft, mae diffyg cydnabyddiaeth o'r ffordd mae yna amrywiaeth o ran mynediad at gynrychiolaeth ac eiriolaeth rhwng y sector addysg uwch a'r sector addysg bellach. Byddai cyfle wedi bod fan hyn, er enghraifft, i roi sail gyfreithiol i hynny, a bod cydnabyddiaeth a chefnogaeth i hynny yn amod o fod yn gorff cofrestredig. Felly, ydy'r Gweinidog yn credu bod y Bil, fel y mae, yn rhoi ystyriaeth ddigonol i lais dysgwyr?
Rwy'n siŵr y gallwn ni gyd gytuno bod rhyddid academaidd yn hollol hanfodol i addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol. Mae rhyddid academaidd yn egwyddor bwysig y dylen ni ei groesawu, ei gefnogi, ei ariannu a'i hyrwyddo yma yng Nghymru. Mae canlyniadau peidio â diogelu rhyddid o'r fath yn eang eu cwmpas. Mae rhyddid academaidd yn effeithio ar y buddsoddiad y gall prifysgolion ei sicrhau i Gymru drwy eu gweithgareddau. Gallai gyfyngu ar eu gallu i ffurfio partneriaethau, yn ddomestig ac yn rhyngwladol, a gall rhoi Cymru, felly, dan anfantais. Mae angen gwell gydnabyddiaeth a diogelwch i ymreolaeth sefydliadol a rhyddid academaidd yn y Bil, ond mae rhanddeiliaid wedi cyfeirio at feysydd lle mae diffyg amddiffyniadau angenrheidiol. Mae'r rhain yn cynnwys bylchau anfwriadol wrth drosglwyddo amddiffyniadau presennol yn y ddeddfwriaeth ariannu, y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na chomisiwn, a'r nifer o bwerau rheoleiddio a phwerau eraill newydd sydd yn y Bil. Yn hyn o beth, hoffwn i i'r Gweinidog amlinellu sut mae'r Bil sydd ger ein bron ni heddiw, mewn gwirionedd, yn diogelu rhyddid academaidd, gallu sefydliadau academaidd i ffurfio'r partneriaethau allweddol yma, a beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr Cymru ar lefel domestig ac yn fyd-eang.
Mae nodau datganedig y ddeddfwriaeth hon yn cynnwys parchu rhyddid i sefydliadau addysgol, tra'n dod â rheoleiddio a chyllid o dan y comisiwn newydd ar addysg drydyddol ac ymchwil. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn dileu pwerau Llywodraeth Cymru i ddiddymu corfforaethau addysg uwch yn erbyn eu hewyllys, ac mae'n ymestyn pwerau i newid eu gofynion statudol. Nid ydym ni o reidrwydd yn erbyn yr agweddau hyn o'r Bil, oherwydd mae'n rhaid i brifysgolion ymddwyn mewn modd sy'n ymateb i anghenion ein heconomi, nid fel busnesau. Ond, gan gofio bod y sefydliadau sy'n cael eu heffeithio gan y Bil yn derbyn arian cyhoeddus, a allaf i ofyn i'r Gweinidog sut mae'r Bil yn mynd ati i sicrhau bod ein prifysgolion yn ymateb yn strategol i anghenion sgiliau, economi ac ymchwil Cymru, yn hytrach nag ymddwyn fel endidau masnachol sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd?
O ran y Gymraeg, eglurwyd yn ystod y broses ymgynghori bod rhanddeiliaid yn cytuno y dylai'r comisiwn newydd gael ei roi o dan ddyletswydd benodol i roi sylw i'r Gymraeg wrth arfer ei swyddogaethau, a dylai fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg. Yn hyn o beth, nodwyd y byddai'r comisiwn yn delio â nifer o feysydd a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar allu'r sector PCET i ddatblygu a gwella gallu'r dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog, a fydd yn mynd gryn ffordd tuag at gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn hanesyddol, mae'r cynnig o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog o fewn PCET wedi bod yn gyfyngedig ac yn dameidiog oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd cyfyngedig cymwysterau, argaeledd cyfyngedig yr adnoddau o ran adnoddau ffisegol a staff sy'n gallu addysgu ac asesu yn Gymraeg, a diffyg galw canfyddedig gan gyflogwyr a dysgwyr. A allai'r Gweinidog, felly, amlinellu sut mae'n credu bod y Bil yn ymateb i'r materion hyn, ac, yn benodol, sut y bydd y Bil yn ymateb i'r prinder cymwysterau ac adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, o ran yr adnoddau ffisegol a staff sy'n gallu addysgu ac asesu yn Gymraeg? Felly, hoffwn glywed mwy am y manylion ar sut y bydd y Bil yn ein helpu ni ar y ffordd i'r targed yna o filiwn o siaradwyr. Diolch yn fawr.