Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Ymddiheuriadau. Lywydd, rwyf eisoes wedi darparu datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau gyda'r penderfyniad ar ffordd fynediad Llanbedr. Cafodd adroddiad y cadeirydd ei gynnwys ac roedd yn nodi'r argymhellion. Rwyf wedi'u derbyn, ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw waith pellach ar gynllun ffordd fynediad cyfredol Llanbedr.