4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2021.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ganlso ffordd gyswllt Llanbedr yng Ngwynedd? TQ576
Ydy'r Gweinidog yn barod i ateb?
A yw'r Dirprwy Weinidog yn barod i ateb y cwestiwn a ofynnwyd? Lee Waters, mae'n ymddangos eich bod ar y ffôn gyda rhywun arall, ond rydych yma yn y Siambr hefyd. A ydych ar gael i ateb y cwestiwn a ofynnwyd yn awr gan Mabon ap Gwynfor? Mae ar y papur trefn.
Ymddiheuriadau. Lywydd, rwyf eisoes wedi darparu datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau gyda'r penderfyniad ar ffordd fynediad Llanbedr. Cafodd adroddiad y cadeirydd ei gynnwys ac roedd yn nodi'r argymhellion. Rwyf wedi'u derbyn, ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw waith pellach ar gynllun ffordd fynediad cyfredol Llanbedr.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Wel, roedd tasglu'r Cymoedd, a oedd yn cael ei gadeirio gennych chi rai blynyddoedd yn ôl, yn hyrwyddo deuoli'r A465 ar Flaenau'r Cymoedd, project a fydd, yn ei chyfanrwydd, wedi costio dros £1 biliwn, gan alluogi degau o filoedd o geir i wibio ar hyd y ffordd ar 70 mya bob blwyddyn. Ymhlith y gwahanol ddadleuon a gafodd eu rhoi gerbron am y deuoli yma oedd y ffaith bod posib cysylltu efo traffyrdd yng nghanolbarth Lloegr, gan achosi mwy o drafnidiaeth ceir. Trwy gyd-ddigwyddiad, dechreuodd y gwaith i ddeuoli Dowlais Top i Hirwaun fis cyn ichi gyhoeddi’r moratoriwm ar ffyrdd, oedd, wrth gwrs, yn golygu na fyddai'r cynllun drudfawr yma yn dod o dan gylch gorchwyl y moratoriwm.
Felly, mae gennym ni un cynllun fan hyn, cynllun Llanbedr, sy'n costio £14 miliwn, efo hanner ohono fo wedi cael ei dalu gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer 1 milltir o ffordd i wasanaethau poblogaeth Llanbedr ac arfordir Meirionydd, ac mae yna gynllun arall, yn costio £0.5 biliwn, sef yr un Dowlais Top i Hirwaun, wedi cael ei dalu drwy gynllun PFI newydd ar gyfer 11 milltir o ffordd ym Mlaenau'r Cymoedd. Pa gynllun ydych chi'n meddwl fydd y mwyaf niweidiol i'r amgylchedd?
Ac yn olaf, os ydyn ni am dderbyn yn yr adroddiad argymhelliad Rhif 10, sef adeiladu ffordd gyswllt wahanol efo uchafswm cyflymder llawer yn llai, sydd, yn ôl yr adroddiad, am fod yn ddrudfawr iawn, sut gaiff honno ei hariannu, ac a fyddwch chi'n digolledu'r cyngor ac yn ariannu'r gost efo'r golled o £7.5 miliwn Ewropeaidd sydd ddim yn mynd i ddod i'r fei oherwydd hyn? Diolch.
Gallaf weld nad yw amser wedi gwneud Mabon ap Gwynfor yn fwy parod i wrando ar y dadleuon a gyflwynwyd gan y panel annibynnol. Deallaf ei siom, oherwydd ceir ymlyniad lleol cryf i'r cynlluniau hyn yn aml. Clywais bobl yn dweud ddoe fod hwn yn gynllun sydd wedi bod yn uchelgais yn lleol ers 70 mlynedd. Rydym yn aml yn gweld hyn yn digwydd lle mae awdurdodau lleol, wrth wynebu heriau trafnidiaeth, yn troi at gynlluniau sydd wedi bod yn barod i fynd ganddynt ers cenedlaethau.
Ond rydym mewn argyfwng hinsawdd, ac rwy'n teimlo ychydig yn ofidus, wrth wrando ar y newyddion bob nos gyda chryfder y wyddoniaeth, cryfder y rhwystredigaeth ynglŷn â'r trafodaethau yn Glasgow, cydnabyddiaeth gan bob plaid fod angen inni wneud pethau'n wahanol, a datganiadau yn y Senedd hon, datganiadau gan Mabon ap Gwynfor a'r Aelod Seneddol lleol ei hun, sy'n cydnabod maint yr argyfwng hinsawdd ac uchelgais ei blaid inni gael targed sero-net erbyn 2030 yn hytrach na 2050. Nid yw'r pethau hyn yn gydnaws â pharhau i adeiladu mwy o gapasiti ffyrdd. Nid yw'n gydnaws. Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dweud yn glir, er mwyn cyrraedd y targed sero-net erbyn 2050, fod yn rhaid inni leihau nifer y teithiau ceir. Nid ydym yn gwybod sut i gyflawni'r targed sero-net 20 mlynedd cyn hynny, er bod Plaid Cymru yn dweud y dylem, ac yn sicr nid yw'n gydnaws â'r modd y mae ef yn pwyso arnom i adeiladu cynlluniau ffyrdd.
Rydym wedi sefydlu adolygiad annibynnol. Mae'n drueni bod Llanbedr wedi cael ei ystyried ar ei ben ei hun, oherwydd pe bai wedi cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd, credaf y byddai newid ein gwariant ffyrdd i waith cynnal a chadw a dewisiadau amgen yn cael ei ystyried yn ei gyfanrwydd, yn hytrach nag un cynllun yn unig sy'n caniatáu i bobl leol ddweud bod Llanbedr wedi'i dargedu'n annheg, ac nid yw hynny'n wir. Gwnaethom hynny ar gais yr awdurdod lleol oherwydd terfynau amser y cyllid Ewropeaidd, a dyma adroddiad y panel annibynnol. Nid fy argymhelliad i ydyw, eu hargymhelliad hwy ydyw, ac rwyf wedi'i dderbyn.
Roedd ei bwyntiau ychydig yn anffodus yn fy marn i, ynglŷn â deuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd. Cymeradwywyd ffordd Blaenau'r Cymoedd, os cofiaf yn iawn, gan Ieuan Wyn Jones pan oedd yn Weinidog trafnidiaeth, ac rydym hefyd wedi gwneud eithriad ar gyfer cynllun ar gyfer ffordd osgoi yn Llandeilo, a oedd unwaith eto'n gais gan Blaid Cymru. Yn sicr, nid ydym yn pigo ar gefn gwlad Cymru. Rydym wedi canslo ffordd osgoi'r M4 o amgylch Casnewydd. Felly, yn sicr, nid ydym yn arddel safbwynt sy'n rhagfarnllyd yn ddaearyddol rywsut neu'i gilydd, rydym yn ceisio gwneud y gwaith anodd iawn o newid y ffordd rydym yn ymdrin â gwariant ar drafnidiaeth.
Mae'n amlwg fod gan Lanbedr broblemau gyda thagfeydd, yn enwedig ar rai adegau o'r flwyddyn, ac mae mater ar wahân yn codi ynglŷn â mynediad at yr unedau busnes newydd a'r dyhead i gael maes rocedi. Mae'r adroddiad gan Lynn Sloman yn gynhwysfawr iawn ac yn ymdrin â'r ddau fater, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r cyfraniad roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i'r prosiect hwn i weithio gyda'r awdurdod lleol er mwyn gwneud arfarniad arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru dilys nad yw'n dechrau gyda'r dybiaeth ein bod yn adeiladu ffordd, sef yr hyn sydd wedi digwydd yn yr achos hwn, ac sydd wedi digwydd mewn achosion eraill hefyd yn wir, ond yn hytrach edrych ar sail niwtral o ran dull teithio i weld pa fesurau cynaliadwy y gallem eu rhoi ar waith. Mae hwnnw'n ymrwymiad diffuant, a thrafodais hynny gydag arweinydd yr awdurdod lleol.
Ar y mater arall wedyn o agor y tir i'w ddatblygu, unwaith eto, mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir eu bod yn credu bod y ffyrdd presennol yn galluogi rhywfaint o hynny i ddigwydd ac os oes angen mwy, mae hynny'n rhywbeth y gellir ei nodi drwy'r gwaith ar y cyd y byddwn yn ei wneud gyda'r awdurdod lleol. Felly, deallaf rwystredigaeth yr Aelod; ni allaf ei gysoni'n iawn â'r hyn y mae hefyd yn dweud bod angen inni ei wneud ar sero-net. Mae yntau a'r Aelod Seneddol yn anghywir i awgrymu ein bod yn pigo ar y Gymru wledig neu ar Wynedd yn arbennig yma. Mae hwn yn ddull o weithredu y byddwn yn ei fabwysiadu ledled Cymru oherwydd mae'r wyddoniaeth yn mynnu ein bod yn gwneud hynny, ac mae'r argyfwng hinsawdd y mae ef a minnau, a Chyngor Gwynedd, wedi'i ddatgan hefyd yn mynnu ein bod yn ei wneud.
Ddirprwy Weinidog, mae'r penderfyniad i ganslo cynllun ffordd fynediad Llanbedr wedi siomi trigolion yr ardal. Nid yw'n gyfrinach; gwn fod fy nghyd-Aelod o Blaid Cymru newydd ddweud yr un peth. Cysylltodd un o drigolion yr ardal â mi cyn imi ddod i'r Siambr, ac roeddent yn dweud pa mor ffiaidd oedd y penderfyniad a'u bod wedi'u tristáu'n arw ganddo. Ni roddwyd sêl bendith i'r penderfyniad diweddaraf i wneud hyn tan fis Mawrth. Mae wedi gadael pobl yn ofidus am brosiectau ffyrdd eraill a fyddai wedi bod o fudd enfawr i fywydau pobl a'n heconomi. Mae'r ffaith na fyddant yn dwyn ffrwyth yn peri pryder i bobl.
Rwy'n deall bod yr hinsawdd yn peri pryder mawr i chi. Fodd bynnag, mae traffig yn yr ardal hon yn hunllef llwyr i gynifer o bobl, ac roeddent yn gweld y ffordd fynediad hon fel ffordd allan o'r dioddefaint hwnnw. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n deall bod yr hinsawdd yn fater y mae pob plaid yn poeni yn ei gylch. Rydych yn dweud bob wythnos, dro ar ôl tro, mai dyma yw eich ffocws pennaf ar hyn o bryd. Felly, hoffwn wybod beth yn union yw'r pecyn amgen o fesurau y byddwch yn eu cyflwyno i fynd i'r afael â thraffig yn yr ardal yn awr. Rydych eisoes wedi gwneud tro pedol ar ffordd osgoi Llandeilo, a fyddwch yn ailystyried eich penderfyniad yn Llanbedr hefyd? Diolch.
Lywydd, mae Natasha Asghar yn dweud ei bod yn deall bod yr hinsawdd yn destun pryder i mi. Roeddwn yn meddwl ei fod yn destun pryder iddi hithau hefyd, oherwydd rwyf wedi clywed areithiau y bu'n eu gwneud wythnos ar ôl wythnos yn dweud wrthyf nad ydym yn ddigon beiddgar nac yn ddigon cyflym, a Janet Finch-Saunders hefyd yn sicr. Clywais Janet Finch-Saunders yn dweud yn y brotest gyda'r cerflun rhew cyn mynd i COP nad oedd rheswm dros ohirio unrhyw gamau gan fod cefnogaeth drawsbleidiol i wneud yr hyn a oedd yn angenrheidiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Wel, dyma ni, yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac rydym yn cael gwrthwynebiad ar ôl gwrthwynebiad gan bleidiau sydd wedi ymrwymo i'r datganiad o argyfwng hinsawdd. Trafnidiaeth sy'n gyfrifol am 17 y cant o'n holl allyriadau carbon. Felly, ni all trafnidiaeth fod yn rhydd rhag camau i leihau allyriadau. Mae hynny'n golygu rhoi'r gorau i wneud yr hyn rydym bob amser wedi bod yn ei wneud a gwneud pethau'n wahanol. Os ydym am roi dewisiadau amgen realistig i bobl yn lle'r car, rhaid inni fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Mae buddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu buddsoddi llai yn y dull y buom yn ei weithredu—y dull rhagweld a darparu. Mae rhagolygon trafnidiaeth yn dweud y bydd mwy o bobl yn gyrru, felly rydym yn adeiladu ffyrdd. Dyna'r hyn y buom yn ei wneud ers 70 mlynedd, a dro ar ôl tro mae'n arwain at fwy o bobl yn dal i adeiladu mwy o ffyrdd, ac felly mae'r rhesymeg yn parhau.
Efallai nad yw hi'n fodlon wynebu'r gwrth-ddweud deallusol yn ei dadl ei hun, ond ni allaf fi wneud hynny, a minnau mewn swydd gyfrifol. Os ydym am gyflawni'r cynllun sero-net a gyhoeddwyd gennym, mae'n rhaid inni dorri 10 y cant oddi ar y milltiroedd ceir a deithir yn ystod y pum mlynedd nesaf. Ni allwn wneud hynny os na roddwn ddewisiadau amgen i bobl gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Ni allwn roi dewisiadau eraill ar waith os ydym yn parhau i wario arian ar ffyrdd, sy'n cynhyrchu mwy o draffig.
O ran yr hyn sydd yn y pecyn amgen o gamau, mae hwnnw'n rhywbeth y bydd angen inni ei drafod gyda'r awdurdod lleol. Mae Lynn Sloman, yn ei hadroddiad—nid wyf yn siŵr a yw Natasha Asghar wedi cael y cyfle i'w ddarllen eto, ond byddwn yn ei argymell—yn nodi cyfres o opsiynau sy'n bosibl, ond mae'r rhain yn bethau rydym eisiau eu gwneud gyda'r awdurdod lleol.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog. Fe fyddwn ni'n cymryd egwyl fer nawr er mwyn caniatáu ambell i newid yn y Siambr.