Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Yr wythnos hon, dathlwn ben blwydd Cyngor Llyfrau Cymru yn 60 oed. Mae’n destun rhyfeddod sut y datblygodd y corff bychan, eiddil a sefydlwyd yn 1961 i fod yn sefydliad grymus gyda chyfrifoldebau eang dros faes cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg. Oherwydd ystod eang ei gyfrifoldebau, does dim un corff tebyg iddo yng ngwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol. Mae’n hyrwyddo darllen, yn cefnogi awduron, ac yn gyfrifol am gynnal a datblygu’r diwydiant cyhoeddi.
Mae hefyd yn dosbarthu grantiau i gyhoeddwyr sy’n sicrhau amrywiaeth o lyfrau a chylchgronau o safon. Mae ei ganolfan ddosbarthu yn cyflenwi llyfrau’n ddyddiol i lyfrwerthwyr ac mae gwales.com yn golygu bod modd cyrraedd darllenwyr a phrynwyr llyfrau ar draws y byd.
Croniclir hanes y 60 mlynedd mewn dwy gyfrol sydd newydd ymddangos: O Hedyn i Ddalen a Two Rivers from a Common Spring.
Cafodd y corff ei arwain yn gadarn ar hyd yr amser a daeth sefydlogrwydd pellach pan wnaeth y Cynulliad Cenedlaethol yma, yn ei dymor cyntaf, y penderfyniad pellgyrhaeddol i ariannu’r cyngor llyfrau'n uniongyrchol a disodli cyfundrefn ariannu oedd yn simsan a chymhleth.
Aberystwyth yw cartref y cyngor llyfrau, ond mae ei ddylanwad a’i werth i’w deimlo rhwng y cloriau sydd yn nwylo plant a phobol ar hyd a lled Cymru wrth iddyn nhw ddysgu a rhyfeddu, tra’n darllen llyfrau am Gymru ac o Gymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Heb arweiniad a gweithgaredd y cyngor llyfrau dros 60 o flynyddoedd, mi fyddai cyfoeth llyfrau ein cenedl llawer, llawer tlotach.