6. Dadl ar ddeiseb P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:15, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, o'r amgylchiadau hyn, sefydlodd Rhian elusen 2 Wish Upon a Star—elusen sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth hanfodol i eraill. Mae 2 Wish yn cefnogi teuluoedd a staff drwy'r profiad o golli plentyn neu oedolyn ifanc yn annisgwyl drwy ddarparu blychau atgofion, cwnsela a nifer o wasanaethau cymorth uniongyrchol. Gall cymorth mwy hirdymor gynnwys therapi cyflenwol, therapi chwarae, grwpiau cymorth ffocws, penwythnosau preswyl a digwyddiadau misol. Gwneir y cynnig o gymorth gan weithwyr gofal iechyd rheng flaen ar adeg neu yn yr oriau yn dilyn marwolaeth drasig. Pan fydd y teulu wedi rhoi cydsyniad ar lafar, bydd y gweithiwr gofal iechyd yn cysylltu â 2 Wish gyda gwybodaeth am y farwolaeth a'r teulu. Bydd 2 Wish yn cysylltu am y tro cyntaf o fewn y 24 i 48 awr gyntaf ar ôl gwneud yr atgyfeiriad. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw pob teulu'n cael cynnig cymorth ar unwaith neu'n uniongyrchol, ac mae Rhian yn ceisio sicrhau bod yn rhaid i lwybr ar gyfer teuluoedd mewn galar sicrhau bod cynnig rhagweithiol o gymorth yn cael ei wneud. Lywydd dros dro, rhaid gofyn i deuluoedd, ac wrth gwrs, gallant wrthod y cynnig hwnnw.

Heb gael cynnig cymorth, mae teuluoedd sydd newydd golli plentyn yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain i ymdopi. Rhoddir taflenni gwybodaeth i rai ynglŷn â gwasanaethau, sy'n rhoi'r cyfrifoldeb ar deuluoedd i estyn allan a dod o hyd i'r cymorth sydd ar gael a'r cymorth priodol sydd ar gael ar gyfer eu hangen. Maent yn wynebu negeseuon peiriant ateb, amseroedd aros hir a'r posibilrwydd na fydd y sefydliadau a restrir ar y darnau hynny o bapur yn gallu eu cefnogi. Mae Rhian ei hun yn disgrifio sut y mae hyn yn achosi i bobl deimlo'n ynysig, yn unig ac yn ddiwerth. Mae 2 Wish yn gweithio gyda phob ysbyty, corffdy, swyddfa crwner a heddlu yng Nghymru. Mae ganddynt berthynas gref ag Ambiwlans Awyr Cymru, timau rhoi organau, ac maent yn rhan o'r adolygiad o farwolaethau plant gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn anffodus, gwneir atgyfeiriadau gan y sefydliadau hyn bob dydd. Mae'n rhoi cymorth i staff sy'n ymdrin â cholli pobl ifanc yn sydyn, ac mae'n darparu hyfforddiant ar y cynnig o gymorth a sut i gefnogi teuluoedd sydd wedi colli rhywun yn sydyn. Mae hefyd yn cynnig cymorth uniongyrchol a pharhaus i weithwyr proffesiynol sy'n ei chael yn anodd yn sgil marwolaeth plentyn. Mae aelodau'r Pwyllgor Deisebau wedi derbyn tystiolaeth o'u gwaith gan bob heddlu yng Nghymru. Mae'r deisebau hyn yn mynegi'n glir pa mor ddibynnol ydynt ar y gwasanaethau, i gefnogi aelodau o'r cyhoedd, ac yn bwysig, i gefnogi eu swyddogion eu hunain. Dywedodd fy heddlu lleol, Heddlu Gogledd Cymru, wrth y pwyllgor fod cefnogaeth 2 Wish wedi eu galluogi i adfywiogi a symleiddio'r cymorth a ddarperir mewn ymateb i ddigwyddiadau trasig.

Pan ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb hon am y tro cyntaf, roedd Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor cymorth profedigaeth i helpu i ddatblygu a darparu trefniadau cymorth gwell. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae tair elfen i gymorth profedigaeth yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal: darparu gwybodaeth a chyfeirio; cyfleoedd ffurfiol i fyfyrio ar alar, mewn sesiynau unigol neu grŵp; ac ymyriadau arbenigol, gan gynnwys cymorth seicolegol a chwnsela o bosibl. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi comisiynu astudiaeth o wasanaethau profedigaeth. Mae wedi tynnu sylw at y ffaith bod sawl sefydliad wedi nodi heriau wrth ateb y galw am eu gwasanaethau. Mae hon yn broblem amlwg, o ystyried pa mor hanfodol bwysig yw hi i wasanaethau allu ymateb yn gyflym i gynorthwyo'r bobl ar yr adeg y maent angen hynny.

Mae gwasanaethau fel y rhai a ddarperir gan 2 Wish eisoes yn rhoi cymorth i nifer sylweddol o deuluoedd bob blwyddyn yng Nghymru. Mae nifer yr atgyfeiriadau at y gwasanaethau wedi cynyddu bob blwyddyn ers sefydlu'r elusen yn 2014. Cynhyrchwyd yr atgyfeiriadau hyn drwy eu hymroddiad eu hunain a gweithio'n ymroddedig gyda'r GIG, heddluoedd, meddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, maent yn nodi enghreifftiau o nifer sylweddol o deuluoedd nad ydynt yn cael eu cyfeirio at eu cymorth. Mae'r ddeiseb yn galw am gynnig cymorth i bob teulu sy'n wynebu'r amgylchiadau mwyaf anodd hyn. Ni ddylid gadael unrhyw deulu, gweithiwr proffesiynol nac unigolyn i ymdopi ar eu pen eu hunain. Fel y mae'r ddeiseb yn esbonio:

'Mae angen cymorth ar unwaith ar deuluoedd sy'n wynebu colled o'r fath. Mae angen iddynt wybod y gallant gysylltu â rhywun i ofyn cwestiynau a chael clust i wrando. Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.'

Darperir cynifer o wasanaethau profedigaeth gan elusennau, gan gynnwys rhai 2 Wish, ac mae'r pwyllgor wedi clywed pryderon ynglŷn â diffyg cyllid gan y sector cyhoeddus ar gyfer y gwasanaethau y mae'r sefydliadau hyn yn eu darparu. Er eu bod yn cyfeirio pobl at y gwasanaethau, nid oes unrhyw fyrddau iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd yn darparu unrhyw arian i 2 Wish. Credwn fel pwyllgor fod hyn yn rhywbeth y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef. Mae cwestiwn yn codi ynghylch cynaliadwyedd hirdymor pan ydym yn dibynnu ar godi arian a rhoddion elusennol yn unig i dalu am wasanaethau mor hanfodol.

I gloi, mae'r pwyllgor yn cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sefydlu'r gweithgor cymorth profedigaeth a'r astudiaeth gysylltiedig o wasanaethau sy'n bodoli eisoes. Nodwn y gwaith o ddatblygu ac ymgynghori ar y fframwaith cenedlaethol drafft ar gyfer gofal profedigaeth. Gobeithiwn y bydd y rhain yn sicrhau gwelliannau parhaol i'r cymorth sydd ar gael i bawb yr effeithir arnynt yn sgil colli plentyn neu unigolyn ifanc.

Fodd bynnag, drwy'r ddadl hon heddiw, rydym yn gofyn am ymrwymiadau pellach ynghylch dull Llywodraeth Cymru o weithredu wrth symud ymlaen. A yw'r Llywodraeth yn bwriadu gweithio tuag at sicrhau bod pob gweithiwr proffesiynol yn dilyn llwybr cymorth ar unwaith ar adeg y farwolaeth? Mae'r deisebydd wedi cynnig y dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n cymryd cyfrifoldeb oddi wrth y teulu neu'r unigolyn mewn profedigaeth ac yn ei roi ar y sefydliad i gynnig a threfnu'r cymorth hwnnw'n rhagweithiol. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog—y gwn ei bod yn awyddus iawn i gefnogi'r elusen hon, ac rwy'n canmol y Gweinidog am y gwaith a wnaeth cyn iddi ddod i'w swydd ac yn ei swydd hyd yma—yn gallu cyfeirio at hyn yn ei hymateb i'r ddadl heddiw.

Mae'r deisebydd hefyd wedi galw am well hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd y gallai fod angen iddynt gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth ac i'r gweithwyr proffesiynol hynny fel bod ganddynt hwy eu hunain rywle i droi iddo am gymorth. 

Yn olaf, Lywydd, pa ddull o weithredu y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei fabwysiadu i sicrhau bod y gwasanaethau cymorth allweddol hyn ar gael i bawb sydd eu hangen a'u bod yn cael eu hariannu'n ddigonol at y diben hwn? A allwn barhau â sefyllfa lle mae cymorth y cyfeirir pobl ato gan y GIG, gan bob heddlu yng Nghymru ac eraill yn cael ei ddarparu i raddau helaeth drwy gyllid elusennol? Mae rhoi cymorth i bobl sy'n ymdopi â phrofedigaeth sydyn yn rhywbeth y dylem i gyd anelu ato. Lywydd dros dro, mae hwn yn faes lle gall Cymru osod esiampl i wledydd eraill, ac rwyf am i bob un ohonom heddiw, fel Aelodau o'r Senedd, oleuo cannwyll, cannwyll a fydd yn rhoi gwres a golau i bobl yn yr amgylchiadau tywyllaf ac oeraf.

Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed cyfraniadau'r Aelodau yma yn y Siambr, ac ymateb y Dirprwy Weinidog wrth gwrs. Diolch yn fawr iawn.