Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Fel cadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau ac ar angladdau a phrofedigaeth yn y Senedd hon a'r Senedd ddiwethaf, rwyf wedi gweithio gyda'n haelod o'r grŵp, Rhian Mannings, a gyflwynodd y ddeiseb hon ac a sefydlodd yr elusen 2 Wish Upon a Star yng Nghymru, sy'n darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plant a phobl ifanc o dan 25 oed yn sydyn neu'n drawmatig o ganlyniad i hunanladdiad neu drwy ddamwain neu salwch.
Dywedodd wrthyf mai marwolaeth sydyn yw'r farwolaeth sy’n cael ei hanghofio yng Nghymru, ac er bod yr elusen wedi dod yn wasanaeth statudol i bob pwrpas yng Nghymru, gan weithio gyda phob bwrdd iechyd a phob heddlu, nid ydynt yn cael unrhyw gymorth statudol ac mae’n rhaid iddynt godi pob ceiniog eu hunain, er eu bod yn lleihau'r pwysau ar dimau iechyd meddwl wrth helpu i fynd i'r afael â thrawma marwolaeth annisgwyl a cholled na ellid bod wedi'u rhagweld.
Dechreuodd ei brwydr, fel y clywsom, ar ôl iddi golli ei gŵr a’i mab yn sydyn. Dim paratoi, dim rhybudd ac yna dim byd, meddai, a dywed fod y diffyg cymorth a gawsant wedi arwain yn uniongyrchol at hunanladdiad ei gŵr. Yn wir, ei phenderfyniad i ddarparu'r cymorth y byddai wedi dymuno ei gael yn sgil marwolaeth ei mab a'i gŵr yw'r rheswm pam ein bod yn trafod y mater hollbwysig hwn heddiw.
Ar hyn o bryd, nid oes cymorth profedigaeth swyddogol i deuluoedd yng Nghymru. Fe'i darperir gan sefydliadau fel 2 Wish Upon A Star neu hosbisau fel hosbis plant Tŷ Gobaith ger Conwy, lle mae gwasanaethau'n cynnwys eu hystafell plu eira—ystafell arbennig y rheolir ei thymheredd lle gall teuluoedd a ffrindiau dreulio amser yn ffarwelio, yn eu hamser ac yn eu ffordd eu hunain, â phlant sydd wedi marw.
Mae'r grwpiau trawsbleidiol yn croesawu'r fframwaith cenedlaethol drafft ar gyfer darparu gofal profedigaeth a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Cyfrannodd aelodau'r grŵp yn sylweddol at ei ddatblygiad, ac mae ein rhaglenni gwaith yn cynnwys ffocws ar lawer o'r pynciau sydd wedi'u cynnwys yn y fframwaith. Mae uchelgais y fframwaith i sicrhau bod pobl Cymru'n gallu cael gofal a chymorth profedigaeth amserol o ansawdd yn greiddiol i'r ddadl heddiw. Ni ddylai unrhyw deulu fod ar eu pennau eu hunain ac wedi'u hynysu ar ôl colli plentyn.
Mewn cyfarfodydd grŵp trawsbleidiol, rydym hefyd wedi trafod enghreifftiau o ddiffyg dealltwriaeth gan gyrff y sector cyhoeddus o anghenion penodol teuluoedd du ac ethnig leiafrifol yng Nghymru mewn perthynas â phrofedigaethau. Yn wir, argymhellodd ymchwiliad Cymru Garedig a'r grŵp trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau wasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol cymunedau ar sail hil, gan gynnwys pobl o gymunedau amrywiol i gydgynhyrchu gwasanaethau.
Mae'r ddeiseb heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn gwbl briodol, i gefnogi gwasanaeth yma yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd sy’n colli plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed ac iau yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gadewch inni wrando ar yr uwch dditectif o Heddlu Gogledd Cymru a ddywedodd wrthyf, 'Mae angen mawr am y gwasanaethau a ddarperir gan 2 Wish Upon A Star i'r teuluoedd ledled Cymru sydd wedi dioddef profiad mor drasig, ac mae'n rhywbeth sy'n amlwg wedi bod ar goll yng ngogledd Cymru yn fy mhrofiad proffesiynol personol. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn bendant wedi gweld budd y gwasanaethau y mae 2 Wish Upon A Star yn eu darparu, nid yn unig wrth ddarparu amgylchedd addas mewn ysbyty i'r teuluoedd drafod yr amgylchiadau gyda gweithwyr proffesiynol, ond rhywle hefyd lle gallant ddechrau dygymod â'u colled. Yn ychwanegol at hynny', dywedant, 'mae 2 Wish Upon A Star yn darparu mecanweithiau cymorth proffesiynol parhaus hanfodol i rwydwaith y teulu wedi hynny.' Ac yn ogystal â chynorthwyo teuluoedd, mae 2 Wish Upon A Star wedi cefnogi hyfforddiant i swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, sydd wedi cael effaith sylweddol ar sut y maent yn ymdrin â marwolaeth unrhyw blentyn. 'Heb os, maent wedi ein cynorthwyo ni', dywedant, 'drwy broffesiynoli ein dull o weithredu.'
Rwyf am adael y gair olaf i uwch aelod o staff Heddlu Gogledd Cymru, a anfonodd e-bost, 'Roeddwn yn ymwybodol o 2 Wish Upon A Star o drafodaethau yn y gweithle gyda fy nghydweithwyr. Yn anffodus, bûm mewn sefyllfa wedi hynny lle gwelais â'm llygaid fy hun y budd y gall 2 Wish Upon A Star ei roi i'r rheini sy'n dioddef y galar aruthrol nad oes dim ond colli plentyn yn gallu ei greu. Yn fy achos i, digwyddodd hynny ar ôl marwolaeth fy nai wyth wythnos oed. Gallaf ddweud yn hyderus fod y budd a roddodd 2 Wish Upon A Star i'w rieni wedi bod yn anfesuradwy ac yn barhaus.' 'Heb gymorth cynlluniau fel hyn', meddai, 'byddai'n gymaint anoddach ymdopi â'r tywyllwch a all amgylchynu'r rheini sy'n cael profedigaeth sydyn a thrawmatig. Rwy'n eich annog', meddai, 'i roi eich cefnogaeth lawn i'r ddadl hon.' Diolch.