Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddeiseb a'r ddadl bwysig hon heddiw. Dyma fy nadl gyntaf ar ddeiseb ers dod yn Aelod o’r Senedd, ac yn gyntaf oll, hoffwn longyfarch Mr Sargeant ar gadeirio’r pwyllgor a chyflwyno’r eitem hon heddiw, ac ar yr hyn a oedd, i mi, yn gyfraniad teimladwy gennych chi, Jack. Mae'n sicr yn rhoi'r ddeiseb o'n blaenau yma heddiw mewn persbectif. Er gwaethaf natur drist llawer o ddeisebau a gyflwynir i'r Senedd, i adleisio geiriau Buffy yn gynharach, credaf ei bod yn wych gweld democratiaeth ar waith ac aelodau cyffredin o'r cyhoedd yn gallu cyflwyno unrhyw ddeiseb a ddymunant, a'n bod ni yn y Senedd genedlaethol hon yn gallu ymchwilio iddynt a thrafod y deisebau hynny.
Wrth edrych ar y ddeiseb o'n blaenau yma heddiw, 'Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl,' mae'n hanfodol bwysig, wrth gwrs, ein bod yn archwilio hyn ac yn darparu'r cymorth gorau posibl. Rwy'n siŵr fod Aelodau yn y Siambr yma heddiw a fydd efallai wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc, neu efallai fod aelodau agos o'u teulu neu ffrindiau wedi colli plentyn yn sydyn—ac rwy'n meddwl am fy nheulu fy hun ar yr adeg hon hefyd gyda'r ddeiseb benodol hon. Ac fel y mae'r ddeiseb yn nodi, mae gwir angen inni sicrhau bod y teuluoedd hynny, rhai o'n teuluoedd ein hunain yma efallai, sy'n colli plentyn yn annisgwyl, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fynd drwy'r profiad. Mae'n warthus fod rhai teuluoedd yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain heb gael unrhyw gymorth na chyswllt gan weithwyr proffesiynol.
Serch hynny, hoffwn gymryd ychydig funudau i ganolbwyntio ar rai o'r sefydliadau sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn y maes hwn. Dros yr haf, cefais y pleser o gyfarfod â Tŷ Gobaith, y cyfeiriodd Mr Isherwood ato eiliad yn ôl, un o'r unig ddau hosbis plant yng Nghymru, gyda Tŷ Hafan. Mae hosbisau fel y rhain yn adnabyddus, yn briodol iawn, am y cymorth y maent yn ei roi i deuluoedd y mae eu plant yn dioddef o afiechydon sy'n cyfyngu ar fywyd. Ond maent hefyd yn darparu cymorth ardderchog i deuluoedd unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc sydd wedi marw'n sydyn, ni waeth a ydynt wedi cael cyswllt blaenorol â'r hosbis ai peidio. A châi'r teulu fynediad at yr ystod lawn o wasanaethau cymorth a oedd yn cynnig arweiniad, gofal, ac mewn sawl achos, gweithredai fel clust i wrando neu ysgwydd i grio arni. Pan ymwelais â Tŷ Gobaith, cefais fy synnu gan eu hystafell plu eira, y cyfeiriodd Mr Isherwood ati ychydig funudau yn ôl. Mae'r ystafell hon yn caniatáu i aelodau'r teulu fod gyda'u plentyn am gyfnod hirach ar ôl iddynt farw. Mae'n amser mor bwysig i deuluoedd ei dreulio gyda'u hanwyliaid, ac mae'n darparu cyfleoedd i eraill ym mywyd y plentyn ffarwelio yn eu ffordd eu hunain. A chredaf ei bod yn bwysig iawn cofio bod llawer o deuluoedd a phobl yn galaru mewn sawl ffordd wahanol, sy'n golygu bod angen i wahanol agweddau ar gymorth fod ar gael, ac fel y mae'r ddeiseb yn gofyn amdano yma heddiw, eu bod yn cael eu cynnig, o leiaf, i deuluoedd sy'n galaru.
Rydym wedi clywed heddiw am y gwaith da, y gwaith rhagorol, gan 2 Wish Upon a Star, sy'n darparu cymorth profedigaeth ar unwaith a pharhaus i'r rheini sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc yn sydyn a thrawmatig, gyda'r nod o helpu'r rheini sy'n wynebu'r annirnadwy i fyw eto, i wenu eto ac i beidio â rhoi’r gorau i obeithio. Felly, mae'r rhain yn enghreifftiau gwych o ble mae cymorth ar gael, ac mae'n helpu teuluoedd ledled Cymru. Ond credaf mai un o'r pethau a amlygir drwy'r ddeiseb hon yn sicr yw diffyg cysondeb a diffyg sicrwydd y bydd cymorth ar gael i bob teulu sy'n dioddef profedigaeth. A dyna pam fy mod i, yn sicr, yn fwy na pharod i gefnogi'r ddeiseb hon, fel ein bod yn cael y cysondeb, y sicrwydd y bydd unrhyw deulu sy'n dioddef profedigaeth yn cael cynnig y cymorth hwnnw.
Felly, i gloi, Gadeirydd, hoffwn ddiolch eto i'r Pwyllgor Deisebau am yr holl waith gwych y maent wedi'i wneud yn nhymor y Senedd hon—a chyda Ms Finch-Saunders yn cadeirio'r Pwyllgor Deisebau o'r blaen, y gwaith a wnaed yn flaenorol hefyd—ac wrth gwrs, mae'n rhaid imi ddweud, mae'r cyfraniadau gan yr Aelodau yn y Siambr heddiw yn deimladwy ac yn galonogol, wrth inni geisio sicrhau'r gorau i bobl Cymru. Rwy’n siŵr y gall pob Aelod gefnogi’r ddeiseb a sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n darparu’r cymorth cywir sydd ei angen ar bob teulu a ffrind yn eu horiau tywyllaf. Diolch yn fawr iawn.