6. Dadl ar ddeiseb P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:32, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

'Maent wedi helpu ein teulu i aros gyda'n gilydd pan oeddem yn rhy wan i afael yn ein gilydd. Roedd y sesiynau cwnsela unigol yn darparu hafan ddiogel i siarad; neu beidio â siarad. Mae'r sesiynau grŵp a ddarperir nid yn unig ar gyfer rhieni, ond ar gyfer neiniau a theidiau hefyd, wedi ein helpu i rannu'r baich.'