Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Rŵan, mae 2 Wish yn gwneud cyswllt cyntaf efo teulu o fewn 24 neu 48 awr i bobl yn cael eu cyfeirio atyn nhw, ond wrth gwrs maen nhw'n poeni bod pawb ddim yn gallu cael y math yna o gefnogaeth. Felly, dyna maen nhw'n gofyn amdano fo drwy'r ddeiseb yma: fod staff meddygol yn gorfod rhoi'r cynnig yna o gymorth i deuluoedd hyd yn oed os nad ydy'r teulu yn teimlo eu bod nhw eisiau cymryd mantais ohono fo. Fel y mae Natalie Edwards, a gollodd ei mab, Griff, pan oedd o'n wyth mis oed, yn ei ddweud, hefyd ar wefan 2 Wish: