Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi arwain y ffordd yn gyson wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Hi oedd y gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd ac mae wedi arwain y ffordd fel mai ein gwlad yw'r drydedd orau yn y byd am ailgylchu, ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu bioamrywiaeth, a chodi ymwybyddiaeth o'r argyfwng natur yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd. Gwelwyd yr ymroddiad hwn i wneud newid gwirioneddol drwy ddarnau lluosog o ddeddfwriaeth nodedig i ddiogelu ein hamgylchedd lleol a byd-eang, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddfau amgylchedd olynol.
Fodd bynnag, gwyddom na all Cymru sefyll ar ei phen ei hun. Wrth gwrs, bydd angen cydweithredu rhynglywodraethol i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ond dylem fod yn hynod o ofalus wrth geisio gweithio gyda Llywodraeth Geidwadol y DU. Nid yw cynllun 10 pwynt y Torïaid yn gwneud fawr ddim i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae'n canolbwyntio yn hytrach ar barhau i wneud elw o'n hadnoddau mewn ffordd fwy effeithlon. Nid yw'r cynllun yn canolbwyntio chwaith ar y trachwant cydweithredol rhyngwladol sydd wedi caniatáu a hyrwyddo pethau fel prynwriaeth dorfol, gwastraff plastig a'r trychineb anochel sy'n ein hwynebu. Nid yw'r gwariant ychwanegol arfaethedig o £4 biliwn yn agos at yr hyn sydd ei angen i gael effaith wirioneddol ar yr argyfwng hinsawdd. Hefyd, mae Llywodraeth y DU yn parhau i wneud cam â fy rhanbarth drwy wrthod buddsoddi i drydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, cam allweddol yn ôl o ran system drafnidiaeth gyhoeddus sero-net.
Mae angen inni annog pobl i barhau i ailgylchu yng Nghymru, a pheidio â gwrando ar Brif Weinidog y DU, a allai fod wedi mynd â ni'n ôl flynyddoedd, a byddai holl waith Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru wedi cymryd cam yn ôl. Mae cynnyrch ailgylchu glân wedi'i ddidoli wrth ymyl y ffordd yn nwydd gwerthfawr, a'r gwir amdani yw bod cyfraddau ailgylchu yn Lloegr mor isel â 45 y cant oherwydd cymysgu gwastraff, sy'n arwain at gynnyrch wedi'i halogi na ellir ei ailgylchu.
Gall cynlluniau dychwelyd ernes weithio pan fyddant yn gysylltiedig â'r cynhyrchydd, ond ni ddylent gymryd lle ailgylchu wedi'i ddidoli wrth ymyl y ffordd, a gall ychwanegu prosesau ychwanegol fel arall, fel y gwelir gyda'r peilot yng Nghonwy. Nid yw ailgylchu'n ateb i brynwriaeth chwaith. Mae bob amser yn well lleihau, ailddefnyddio ac yna ailgylchu. Mae angen inni symud ymlaen gyda deddfwriaeth cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar draws holl wledydd y DU a gweithio i leihau'r defnydd o blastig untro. Lywydd dros dro, gweithredu, nid geiriau, sy'n cyfrif, a thra bod y Blaid Geidwadol mewn Llywodraeth yn parhau i gymeradwyo prosiectau olew a glo sy'n dinistrio'r hinsawdd ac yn torri trethi, sy'n hyrwyddo'n uniongyrchol y defnydd o deithiau hedfan domestig diangen, gan symud incwm oddi wrth ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ni chredaf y gallwn fod o ddifrif ynghylch eu syniad hwy o adferiad gwyrdd.
Ni ddylai Cymru gael ei dal yn ôl gan Weinidogion yn Lloegr ar fater yr argyfwng hinsawdd a'n dyfodol. Y Blaid Lafur sydd bob amser wedi bod o ddifrif ynghylch y fargen newydd werdd, a'r Llywodraeth Lafur sy'n mynd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru. Rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn croesawu cynlluniau gan goleg yn fy etholaeth i, Grŵp Llandrillo Menai, ar gampws y Rhyl, i adeiladu canolfan rhagoriaeth peirianneg a fydd yn hyfforddi myfyrwyr mewn sgiliau technegol ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy, ac yn enwedig y ffermydd gwynt oddi ar arfordir gogledd Cymru. Mae ganddi'r potensial i fod yn ganolfan genedlaethol i'r diwydiant, gan hyfforddi pobl o bob rhan o'r wlad, gan gynnwys yn Lloegr. Bydd yn uwchsgilio ein gweithlu lleol a bydd yn hwb gwirioneddol i economi'r rhanbarth, tra'n hyrwyddo ein hymdrechion i fod yn garbon niwtral. Rhaid inni fod o ddifrif ynglŷn â chyfleoedd fel y rhain yn y Rhyl os ydym am gael adferiad gwyrdd sydd o fudd i bobl Cymru, ac sydd hefyd yn diogelu ein hamgylchedd, ac yn lliniaru'r argyfwng hinsawdd a wynebwn. Diolch.