Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Nid wyf yn mynd i ailadrodd llawer o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud am faint enfawr yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae fy etholwyr eisoes yn byw gyda chanlyniadau allyriadau carbon gormodol—mae llifogydd 1-mewn-100 neu hyd yn oed 1-mewn-1,000 o flynyddoedd bellach yn digwydd bob ychydig flynyddoedd. Nid yw digwyddiadau tywydd eithafol mor anghyffredin erbyn hyn; maent wedi dod yn ddigwyddiad blynyddol bron. Mae trigolion Trefnant a Thremeirchion yn Nyffryn Clwyd yn wynebu blynyddoedd o darfu ar ôl un digwyddiad o'r fath. Dinistriodd Storm Christoph bont hanesyddol Llannerch. Dim ond ychydig ddyddiau a gymerodd hi i'r dyfroedd gilio, ond teimlir eu heffeithiau am lawer hirach, ac rwy'n mawr obeithio y bydd COP26 yn arwain at weithredu yn hytrach na geiriau'n unig, oherwydd, oni chymerir camau brys, bydd y dyfodol yn llwm iawn i fy etholwyr.
Bydd llawer o'r prif ganolfannau poblogaeth yn fy etholaeth dan ddŵr mewn ychydig ddegawdau oni allwn atal y cynnydd yn y tymheredd byd-eang. Hyd yn oed heddiw, mae gan Ddyffryn Clwyd fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd na Chasnewydd, Caerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd. Ac eto, er gwaethaf yr holl sôn am argyfwng hinsawdd, nid ydym yn gweld y math o gamau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r trychineb hinsawdd sydd ar y ffordd. Rydym i gyd yn cael ein hannog i wneud ein rhan, fel y dylem ei wneud yn wir, ond ni ddylai ein rhan olygu bod yn rhaid inni roi'r gorau i'n ffordd o fyw. Byddai rhai o'r safbwyntiau mwyaf eithafol ar weithredu ar yr hinsawdd yn mynd â ni'n ôl i'r oesoedd tywyll—dim ceir, dim cig, dim gwyliau tramor na theithio'n bell a dim mewnforion—ond nid oes raid inni newid ein ffordd o fyw, dim ond gwneud newidiadau i'n ffordd o fyw. Gall technoleg ein helpu naill ai i ddileu allyriadau carbon deuocsid yn llwyr neu sicrhau nad yw allyriadau o'r fath yn niweidio ein hecosystem fregus. Do, fe arweiniodd y chwyldro diwydiannol at y pwynt hwn, ond heb y chwyldro diwydiannol ni fyddem yn mwynhau'r manteision, megis meddygaeth fodern.
Yn ôl yn yr oes gyn-ddiwydiannol, byddai ein hanner yn y Siambr hon yn lwcus i fod yn fyw. Nid ailosod sydd ei angen arnom, ond chwyldro newydd, chwyldro diwydiannol gwyrdd. Rhaid inni fuddsoddi'n helaeth mewn pŵer gwyrdd a thrafnidiaeth werdd, mewn dur gwyrdd a hydrogen gwyrdd. Ymchwil a datblygu yw'r ateb, nid encilio a dirywio. Mae angen inni fuddsoddi mewn datblygu technoleg storio ynni newydd fel batris cyflwr solet, ac mae'n ffaith ddiddorol ein bod ni, neithiwr, wedi cynhyrchu mwy o drydan o lo nag y gwnaethom o wynt. Felly, nid yw gwynt a solar yn ffynonellau cyson, felly oni bai ein bod yn ceisio storio cynhyrchiant dros ben, rydym yn gaeth i ddibynnu ar danwydd ffosil, oherwydd mae'r asgell chwith wedi bwrw sen ar bŵer niwclear. Y bore yma, daeth 58 y cant o ynni'r DU o dyrbinau nwy, 16 y cant o ynni niwclear—ar hyn o bryd yr unig gynhyrchiant ynni cyson nad yw'n allyrru carbon—a dim ond 6 y cant a ddaeth o wynt. Ac ni ddylai datgarboneiddio ein bywydau olygu newid ein ffyrdd o fyw, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraethau weithio law yn llaw â'r byd academaidd a mentrau preifat i gyflawni'r newid hwn. Mae ar Gymru angen ei chwyldro diwydiannol gwyrdd er mwyn achub ein planed ac achub ein ffordd o fyw. Diolch yn fawr iawn.