Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch, Gadeirydd. Rwy'n cynnig gwelliant Plaid Cymru. Mae hon yn sicr yn ddadl amserol. Mae COP26 yn foment pan fydd y ddynoliaeth naill ai'n unioni ei cham neu'n parhau i esgusodi gwastraff a dinistr, moment pan ydym yn sefyll ar ymyl y dibyn i ganiatáu i'r dyfodol fod neu beidio—dyna sydd yn y fantol yn Glasgow.
Rwy'n falch ein bod yn sôn am adferiad—mae'n air addas, oherwydd mae adfer yn golygu adennill meddiant ar rywbeth a gollwyd neu a gafodd ei ddwyn. Pan soniwn am yr amgylchedd, am fynd i'r afael ag argyfwng hinsawdd, adfer bioamrywiaeth, rydym yn sôn am adennill tir, ceisio unioni camweddau degawdau blaenorol, y glo a'r lludw a llygredd sydd wedi tagu ein plant. Ond rydym hefyd yn ceisio adennill tir ar gyfer y dyfodol, i adfeddiannu cyfle i genedlaethau sydd eto i ddod. Yr ymdeimlad hwnnw o ddiogelu lle, o gadw rhywbeth sydd eisoes wedi'i ddwyn gan y dyfodol y gallwn ei gipio'n ôl o'r dibyn, dylai adferiad ymwneud â hynny hefyd.
Mae llawer yn y cynnig hwn rydym yn cytuno ag ef. Mae ein gwelliant yn ceisio ei wthio ymhellach, i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cynllun datblygu morol, i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni a sicrhau nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy wedi'u gosod mewn ardaloedd sy'n sensitif yn ecolegol. Hynny yw, er mwyn sicrhau nad yw'r argyfyngau hinsawdd a natur yn gweithio'n groes i'w gilydd.
Rydym yn galw am fuddsoddi mewn ymchwil datgarboneiddio, yn enwedig mewn sectorau allweddol fel dur, i sicrhau nad yw cymunedau a gweithluoedd yn cael eu gadael ar ôl gan yr adferiad hwn, ond eu bod yn cael eu grymuso ganddo—y gall gweithlu Cymru arwain ail chwyldro diwydiannol, ond y tro hwn, diwydiant gwyrdd, mewn hydrogen ac ynni morol. Rydym yn galw am dargedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol fel bod ein cynefinoedd a'n rhywogaethau'n cael eu hadfer eto, er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld mwy fyth o rywogaethau'n cael eu dwyn ac yn diflannu o'n glannau a'n tirweddau.
Gadeirydd, rydym yn galw am ddatganoli Ystad y Goron, i sicrhau bod y miliynau o bunnoedd o elw sy'n deillio o'n hadnoddau naturiol ein hunain yn cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru, ac nad ydynt yn cael eu cloi ymaith gan y Trysorlys. Gwn fod y Prif Weinidog wedi dangos ei fod yn agored i'r syniad hwn.
Mae cynhadledd y partïon, COP, lle mae meddyliau a meddylfryd yn cyfarfod yn Glasgow yn gosod y ffrâm ar gyfer popeth rydym yn sôn amdano heddiw, oherwydd bydd y penderfyniadau a wneir yno am dargedau a fframiau amser yn pennu faint o ofod sydd yna ar gyfer adferiad, faint o bwysau a fydd ar y llywodraeth, faint o amser sydd yna ar gyfer gobaith cyn anobaith. Gallai'r gofod, y bwlch rhwng yr hyn y mae angen iddo ddigwydd a'r hyn y mae realpolitik yn ei ystyried yn dderbyniol ac caniatáu'n amharod iddo gael ei oddef, fod yn sylweddol. Y bwlch rhwng 1.5 gradd celsius a 2 radd, neu 2.7 gradd—dyna'r terfynau sy'n cynnwys trychineb. Mae'r bwlch rhwng 2035 a 2050, dyddiadau sy'n ymddangos mor bell yn y dyfodol—bydd y bwlch hwnnw'n cau ac yn ein tagu cyn inni gael amser i dynnu anadl. Rhaid rhoi'r adferiad y soniwn amdano ar waith, ac ar frys, oherwydd gellid colli cymaint o hyd.
Gadeirydd, rydym mewn sefyllfa lle mae argyfyngau amrywiol sy'n cystadlu yn digwydd ar yr un pryd—hinsawdd, natur, tlodi, anghydraddoldeb. Maent i gyd yn drychinebau a wnaed gan bobl ac sy'n cael eu gyrru gan bobl. Ni allwn adael iddynt ein tagu. Rhaid i'r adferiad o COVID, o argyfwng yr hinsawdd, fod yn gyfiawn. Rhaid diogelu a buddsoddi mewn cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd ac ofnau ynghylch tomenni glo. Rhaid cynorthwyo teuluoedd tlotach sy'n cael trafferth gyda biliau gwresogi cynyddol, a rhoi cymorth iddynt gydag insiwleiddio. Rhaid gwrando ar gymunedau sydd heb gael llais yn hanesyddol, a rhaid caniatáu cyfle i weithluoedd feithrin sgiliau newydd, i fod yn rhan o'r diwydiannau gwyrdd newydd a chyffrous. Rhaid i'r adferiad fod yn eiddo i bobl Cymru a chael ei yrru ganddynt. Gellir achub y gofod hwnnw eto. Mae amser o hyd.