Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Mae'r byd yn sefyll ar groesffordd, lle gall gwledydd ledled y byd barhau'n ddifeddwl ar eu llwybr presennol, gan ddefnyddio tanwydd ffosil y byd ar gyfradd frawychus, dinistrio ardaloedd enfawr o gynefin naturiol a thorri coed i fwydo ein hawydd am olew palmwydd ac afocados, mewnforio llawer iawn o nwyddau a bwydydd nad ydynt yn dymhorol a pharhau i lygru ein cefnforoedd a'n hamgylchedd naturiol â môr diddiwedd o blastig a gwastraff.
Gallwn ddewis llwybr brafiach, llwybr i ddyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy, lle gallwn fod yn warcheidwaid ein byd a gwrthdroi'r difrod i'n hecosystemau ac i'n hamgylchedd. Bydd angen i bob un ohonom gydweithio—gwledydd, llywodraethau, busnesau a phobl. Fel llywodraethau, dylem fod yn annog plannu coed mewn mannau priodol, yn annog cymhellion i 'brynu'n lleol' a bwyta bwydydd tymhorol. Gallai deddfwriaeth gyfyngu ar y defnydd o blastigau untro ac fel seneddwyr, mae gennym ddyletswydd foesol i wneud yr hyn a allwn, ac rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo adferiad gwyrdd yn ystod y chweched tymor seneddol.
Ond rhaid inni gofio am bobl Cymru—y bywydau y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnynt—ac mae angen inni sicrhau bod unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud mewn ffordd synhwyrol a chynaliadwy, ffordd sy'n cynnal bywoliaeth, yn creu swyddi ac nad yw'n achosi niwed nac yn gwthio baich y gost ar eu hysgwyddau hwy. Rhaid inni ddarparu'r seilwaith sydd ei angen i ganiatáu i'n busnesau fabwysiadu cymhellion gwyrdd. Mae angen inni gydweithio gyda diwydiannau, yn enwedig y sector amaethyddol, sydd o dan y lach yn rhy aml o lawer, pan ddylid eu cydnabod fel rhan bwysig o'r ateb i'n problemau, wrth iddynt gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel ar lefel leol, tra'n gwella'r ecosystemau ac yn diogelu bioamrywiaeth.
Ni allwn ddefnyddio'r hinsawdd fel pêl-droed wleidyddol. Mae amser yn brin. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn croesawu penodiad Gweinidog a Dirprwy Weinidog newid hinsawdd. Fodd bynnag, mae angen i'r adran hon weithredu a chyflawni er mwyn ymateb i'r heriau rydym i gyd yn eu hwynebu, a byddwn yn gwylio ar yr ochr hon i'r Siambr. Drwy gydweithio ar draws y Deyrnas Unedig, gallwn wneud gwahaniaeth. Bydd cynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd yn newid dyfodol ein gwlad yn sylfaenol drwy gael adferiad gwyrdd, gan hyrwyddo a datblygu mwy o bŵer gwynt ar y môr a hydrogen i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil ac i greu swyddi. Byddant yn diogelu'r amgylchedd naturiol drwy blannu 30,000 hectar o goed bob blwyddyn.
Mae gennym ni ym Mhrydain hanes balch o leihau allyriadau carbon. Gostyngodd ein hallyriadau yn y wlad hon 44 y cant rhwng 1990 a 2019. Dylid dathlu hyn, ei addysgu mewn ysgolion, a'i bregethu o'r toeau fel enghraifft fyd-eang o'r hyn y gall y wlad hon ei wneud pan fyddwn yn dod at ein gilydd. Mae'n rhy hawdd i negeseuon gwae barhau, ond rhaid i bob un ohonom gael gobaith. Mae'r ddynoliaeth drwy'r oesoedd wedi profi sut y gallwn fod yn ddychmygus er mwyn goresgyn problemau a rhwystrau. Mae angen inni rymuso ein dinasyddion a'n busnesau i wneud y newidiadau y mae angen iddynt eu gwneud a dod o hyd i atebion technolegol i roi dyfodol brafiach i ni i gyd.
Os yw'r Llywodraeth am gael ei chredu ar y mater hwn, mae angen inni fynd i'r afael â newid hinsawdd yn gyffredinol. Rhaid iddynt fod yn onest gyda'r cyhoedd oherwydd mae angen iddynt wybod cost sero-net a'r effaith ar eu bywydau, gan fod llawer o ddefnyddwyr am wneud penderfyniadau moesegol gwell a dewisiadau gwell yn eu bywydau, ac mae hynny'n hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn awr, oherwydd mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, ac er mwyn helpu adferiad gwyrdd, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, a pheidio â pharhau i chwarae gwleidyddiaeth bleidiol a beio San Steffan am holl anawsterau Llywodraeth Lafur Cymru.
Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi cynllun i ddarparu cannoedd o swyddi coler werdd ar gyfer economi werdd a mwy cynaliadwy. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno'r Ddeddf aer glân ar frys, gwahardd plastigau untro at ddefnydd anfeddygol, glanhau ein cefnforoedd, a gwneud yr hyn rydych yn ei bregethu a chael Cyfoeth Naturiol Cymru i gyrraedd eu targedau ailblannu coed, sy'n cael eu methu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gallech fod yn feiddgar a darparu buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt ar y môr, a pheidio ag anharddu ein cefn gwlad â thyrbinau gwynt a pheilonau, a gallech hefyd osod targedau cyraeddadwy, hirdymor ar gyfer adfer natur a bioamrywiaeth.
Mae'n bryd gweithredu yn awr. Mae'r amser i feio eraill ar ben. Dim ond drwy fod pob gwlad a phob dinesydd ar draws y byd yn gweithio gyda'i gilydd y gallwn wneud ein byd yn lanach ac yn wyrddach. Diolch.