7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adferiad gwyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 5:29, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, mae angen imi ddatgan buddiant fel cynghorydd, oherwydd byddaf yn sôn am Gyngor Sir Fynwy, ond hoffwn ddiolch yn gyntaf i fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, am gyflwyno'r ddadl amserol hon.

Mae newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar y byd; rydym i gyd yn gwybod hynny ac rydym i gyd yn gweld hynny. Yn ôl ym mis Awst, rhybuddiodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd fod gwyddonwyr yn sylwi ar newidiadau yn hinsawdd y Ddaear ym mhob rhanbarth, gyda thrychinebau naturiol yn mynd yn amlach ac yn taro cymunedau'n galetach. O'i roi'n syml, nid yw'n fater o a oes angen inni weithredu na pha bryd y bydd angen inni weithredu, oherwydd nawr yw'r amser.

Wrth siarad cyn agor COP26 ychydig ddyddiau'n ôl, dywedodd Ei Mawrhydi y Frenhines, y wraig a oedd yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl, fod angen i Lywodraethau

'godi uwchlaw gwleidyddiaeth y dydd' a gweithredu dros y 'plant a phlant ein plant'. Gwelsom hynny yn ein dadl flaenorol, ond yn anffodus, ni welsom hynny o reidrwydd yn gynharach heddiw yn y Siambr hon. Rwy'n siomedig fod gwelliant Llywodraeth Cymru yn ymosod ar Lywodraeth y DU mewn stỳnt wleidyddol amlwg, yn hytrach na chefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn yr ysbryd adeiladol a oedd yn sail iddo.

Lywydd dros dro, mae'r pandemig wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru adeiladu nôl yn wyrddach ac yn decach, a chodi'r gwastad i gymunedau sydd wedi cael eu taro'n galed gan ansicrwydd economaidd y 18 mis diwethaf. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn gweld yr adferiad economaidd a chreu cymdeithas wyrddach fel dwy ochr i'r un geiniog, yn hytrach na fel pethau ar wahân.

Gyda hyn mewn golwg, mae ein cynnig yn rhestru nifer o gamau ymarferol y gall y Llywodraeth eu cymryd yn ystod tymor y Senedd hon. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad pellach mewn ynni gwynt morol ac alltraeth, gan ddefnyddio ein sector ymchwil a datblygu o'r radd flaenaf yn ogystal â gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu cynllun go iawn i ddatblygu swyddi gwyrdd medrus iawn.

Mae'r cynnig hefyd yn cyfeirio at bethau y dylai Llywodraethau blaenorol Cymru fod wedi'u rhoi ar waith eisoes, megis Deddf aer glân a swyddfa annibynnol ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Wrth ddweud hyn, rwy'n cydnabod bod peth cynnydd da wedi'i wneud yng Nghymru, ac mewn ysbryd adeiladol, hoffwn ganolbwyntio'n fyr ar rai o'r rheini. Yn fwyaf arbennig, rwyf am ddefnyddio fy nghyfraniad yn y ddadl heddiw i dynnu sylw at y gwaith gwych y mae ein cymunedau lleol yn ei arwain.

Yn fy rhanbarth i, mae Cyngor Sir Fynwy wedi arwain y ffordd gyda chynllunio ar gyfer dyfodol glanach a gwyrddach ers iddo ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019. Er enghraifft, cyhoeddodd y cyngor strategaeth argyfwng hinsawdd yn fuan ar ôl y datganiad, ac ar hyn o bryd mae wrthi'n diweddaru ei gynllun gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae tîm seilwaith gwyrdd y cyngor yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, megis y prosiect cysylltiadau gwyrdd, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae cynghorau yn Nwyrain De Cymru o bob lliw yn wleidyddol wedi dod at ei gilydd gyda rhanddeiliaid fel Cyfoeth Naturiol Cymru i lansio partneriaeth grid gwyrdd Gwent. Prosiect newydd, arloesol yw hwn sy'n anelu at wella a datblygu seilwaith gwyrdd, yn ogystal â chreu swyddi newydd i bobl leol. 

Gwn y bydd enghreifftiau eraill ledled Cymru o gymunedau, sefydliadau a chynghorau lleol sy'n cydweithio i weithredu yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Credaf o ddifrif fod angen ffrwd ariannu annibynnol, hygyrch a hirdymor i gynghorau a chymunedau fanteisio arni er mwyn gyrru'r mathau hyn o brosiectau yn eu blaen. Hefyd, mae angen inni ddwyn ynghyd y gwahanol ffrydiau ariannu presennol fel bod pobl yn gliriach ynghylch pa gymorth sydd ar gael.

Credaf hefyd fod angen inni edrych ar ffyrdd o gryfhau rolau cynghorau i gyflawni'r agenda werdd, yn ogystal â gosod y gwaith paratoi ar gyfer prosiectau cenedlaethol y mae Llywodraethau'r DU a Chymru yn arwain arnynt. Dim ond drwy ddod â gwahanol haenau o lywodraeth at ei gilydd y gallwn ddarparu cymdeithas sero-net go iawn.

Fy nghwestiwn i'r Gweinidog, yn ogystal â'r Aelodau, yw hwn: beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo arloesedd lleol ac annog mwy o weithio mewn partneriaeth rhwng pob haen o lywodraeth a chymdeithas, fel y gallwn wneud mwy o'r camau bach a fydd yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth mawr i ymladd newid hinsawdd a hybu ffyniant yn ein cymunedau? Lywydd dros dro, rwy'n annog pawb yma heddiw i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.