Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 1:53, 10 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am yr ateb hwnnw i gwestiwn gwleidyddol mewn siambr wleidyddol.

Dwi am droi rŵan at fater pwerdai nwy. Er gwaethaf ymrwymiad ymddangosiadol Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio, fel sy’n cael ei ymgorffori yn eich strategaeth sero net, mae wedi dod i’m sylw i ein bod ni yma yng Nghymru, neu yn hytrach fod Llywodraeth Cymru, yn dal i alluogi caniatâd cynllunio ar gyfer gosodiadau nwy newydd. Mae pwerdy yn Wrecsam yn cael ei adeiladu a fydd yn weithredol 2,500 awr y flwyddyn, mae pwerdy arfaethedig ym Mangor wedi cael caniatâd cynllunio, yn ogystal â phwerdy 5 MW arfaethedig ym Mhorthmadog, ymhlith llawer iawn mwy ar draws Cymru. Siawns nad yw hyn yn mynd yn groes i strategaeth Llywodraeth Cymru ei hun i ddatgarboneiddio economi Cymru a chyrraedd sero net erbyn 2050. Os ydych chi felly o ddifri ynghylch mynd i’r afael â newid hinsawdd, pam eich bod chi’n caniatáu i weithfeydd nwy newydd gael eu hadeiladau yng Nghymru? A fyddwch chi yn cymryd y camau angenrheidiol i reoli a newid rheolau cynllunio er mwyn galluogi peidio â datblygu rhagor o’r rhain yn ddiangen? Diolch.