Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch am eich cwestiwn. Mae hon yn broblem gymhleth iawn, oherwydd wrth inni drosglwyddo i ynni adnewyddadwy mor gyflym ag y gallwn, un o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud hefyd yw cadw'r goleuadau ynghynn. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n eithaf dibynnol ar bwerdai nwy ac ynni o nwy i wneud hynny. Mae'n amlwg fod yn rhaid inni gael cynllun pontio ar waith, ac mae'n rhaid i'r cynllun pontio hwnnw weithio i bawb. Mae'n rhaid iddo gynnal ein diwydiannau a chadw ein goleuadau ynghynn. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw cynyddu faint o ynni adnewyddadwy rydym yn ei gynhyrchu, gan leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil o unrhyw fath ar yr un pryd. Rydym eisoes wedi cael gwared ar bwerdai glo o Gymru yn gynnar. Roedd yn wych ein bod wedi gwneud hynny ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud hynny, ond yn amlwg, mae'n golygu bod gennym beth dibyniaeth ar nwy er mwyn cynhyrchu'r hyn a elwir yn gyflenwad sylfaen o ynni. Ynni yw hwnnw y gellir ei gynnau drwy wasgu switsh—yn llythrennol drwy wasgu switsh, pan fydd pawb yn gwasgu botwm y tegell am 9 o'r gloch y nos, er enghraifft. Felly, mae ymchwyddiadau ynni mawr yn digwydd yn y wlad. Gwyddom pryd y maent yn digwydd, ond ni ellir eu rhagweld yn ddigon da inni allu diffodd a chynnau ynni adnewyddadwy. Weithiau, nid yw'r haul yn tywynnu ac nid yw'r gwynt yn chwythu.
Un o'r rhaglenni mawr sydd ar waith gennym yng Nghymru, fel nifer o Lywodraethau ledled y byd, yw'r un i chwilio am gyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy, sef ynni adnewyddadwy y gellir ei gynnau drwy wasgu switsh. Dyna pam fod gennym her y môr-lynnoedd llanw a nifer o heriau ynni'r môr yng Nghymru, gan ei bod yn ymddangos i bawb y gallai ynni'r môr, o bosibl, fod yn ateb i sicrhau cyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy. Rwy’n mawr obeithio y gallwn sicrhau bod Cymru'n rhan o ddechrau diwydiant byd-eang mewn cyflenwad sylfaen o ynni adnewyddadwy. Ond tan hynny, mae'n ddyletswydd arnom i gadw'r goleuadau ynghynn a'n diwydiant a'n busnesau'n gweithio gyda'r cyflenwad ynni sydd ganddynt. Rwy’n derbyn, ac mae gennyf lawer o gydymdeimlad gyda phwyslais cwestiwn yr Aelod i mi, ond yn amlwg, rydym yn ceisio cynyddu un peth wrth leihau'r llall, ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud hynny'n gymesur.