Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am eich atebion hyd yn hyn. Fel rŷch chi'n gwybod, mae 20 y cant o bobl Caerdydd yn dod o gefndiroedd BAME, ac, fel rŷch chi wedi sôn yn barod, mae'n hollbwysig bod plant y cymunedau yma yn cael eu gweld, eu bod nhw'n cael eu cynrychioli yn y cwricwlwm ac o fewn y sector addysg. Mae hynny'n dangos pwysigrwydd pethau fel gwobr Betty Campbell. Ar 13 Rhagfyr, dwi'n noddi digwyddiad yma yn y Senedd, pan fydd yr awdur du o Gaerdydd Jessica Dunrod, gyda'r Mudiad Meithrin, yn arddangos llyfrau gan awduron du, gyda chymeriadau o wahanol gefndiroedd ynddyn nhw, sydd wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg. A wnewch chi bob ymdrech i ddod i'r digwyddiad yna, Weinidog, ond, yn bwysicach na hynny, a wnewch chi bob ymdrech i hyrwyddo deunyddiau sy'n gynhwysol yn y byd addysg? Diolch yn fawr.