Addysgu Hanesion a Phrofiadau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:29, 10 Tachwedd 2021

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rŷn ni yn buddsoddi'n sylweddol iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth i awduron a phobl sy'n darparu adnoddau er mwyn sicrhau bod gan ein hathrawon ni'r deunyddiau sydd eu hangen er mwyn delifro'r cwricwlwm yn y ffordd gynhwysol mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Os ydw i'n rhydd ar y diwrnod hwnnw, byddaf i'n hapus iawn i ddod i'r achlysur. Os wyf i ddim yn digwydd bod yn rhydd, buaswn i'n hapus iawn trefnu achlysur arall i gwrdd gyda hi.