2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm? OQ57154
Mae'n hanfodol fod addysg yn arfogi pobl ifanc i ddeall a pharchu eu hanesion a'u diwylliannau eu hunain a'i gilydd. Rydym yn ychwanegu addysg am amrywiaeth cymunedau at y cwricwlwm, ac rydym hefyd yn buddsoddi mewn dysgu proffesiynol i gefnogi addysgwyr a gweithio i sicrhau gweithlu mwy amrywiol.
Diolch, Weinidog. Mae'n rhaid i'r hanes a addysgwn gyfleu profiadau a safbwyntiau niferus y rhai sydd wedi galw Cymru yn gartref iddynt. Ni ellir anwybyddu digwyddiadau mawr ac arwyddocaol am eu bod yn anghyfforddus neu'n anodd. Mae terfysgoedd hil de Cymru 1919 wedi cael eu hanghofio i raddau helaeth. Dechreuodd terfysgoedd George Street yng Nghasnewydd ac roedd 5,000 o bobl yn rhan ohonynt cyn iddynt ledu i Gaerdydd a rhannau eraill o Gymru a'r DU. Cysylltodd Prosiect Hanes y Doc a Bigger Picture ag ysgolion cynradd lleol yng Nghasnewydd i nodi'r canmlwyddiant, ond mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau nad yw'r rhan hon o'n hanes yng Nghymru'n mynd yn angof. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod adegau arwyddocaol yn ein hanes fel terfysgoedd hil de Cymru yn cael eu cynnwys wrth addysgu hanes pobl dduon yng Nghymru?
Wel, rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru fel y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud yn orfodol i addysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn y cwricwlwm, a bydd hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd addysgu profiadau'r gorffennol a'r presennol a chyfraniadau ein cymunedau lleiafrifol ethnig fel rhan o stori Cymru ar draws y cwricwlwm. Ac yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, rydym i fod i gael sgwrs rhwydwaith genedlaethol, sy'n canolbwyntio ar amrywiaeth, ar gyfer datblygu adnoddau a deunyddiau ategol ar hanes Cymru a chyd-destun lleol. Ac fe fydd hi'n ymwybodol o'r gwaith rydym yn ei wneud i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu drwy annog unigolion o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig i ddod yn athrawon.
Fe fydd hi hefyd yn ymwybodol fod Estyn wedi cyhoeddi adroddiad thematig fis diwethaf ar addysgu hanes Cymru, gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig, ac rwy'n ystyried sut rydym yn ymateb i hynny. Ond un o'r pethau sy'n glir o adroddiad Estyn yw pa mor bwysig yw hi fod gan ein pobl ifanc ddealltwriaeth glir o hanes Cymru, gan gynnwys yr agweddau amrywiol niferus arno, gan gynnwys rôl Cymru yn y fasnach gaethweision a'r terfysgoedd hil. Mae'r rhain yn rhannau pwysig o hanes Cymru ac ni ddylid byth eu hanghofio.
Weinidog, mewn egwyddor, nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad o gwbl i blant yng Nghymru ddysgu am hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn ysgolion Cymru. Llofnododd bron i 35,000 o bobl ddeiseb yn galw am wneud hyn yn orfodol, gan gydnabod gwaddol trefedigaethedd a chaethwasiaeth mewn cymunedau ledled Cymru. Fodd bynnag, mae gennyf un pryder. Mae perygl y gallai canolbwyntio ar drefedigaethedd a chaethwasiaeth waethygu tensiynau hiliol yn yr ystafell ddosbarth ac na fydd digon o sylw yn cael ei roi i'r cyfraniad cadarnhaol a wneir gan bobl groenliw i'n hanes, pobl fel—Mary Seacole a Mary Prince yn bennaf. Felly, sut y byddwch yn sicrhau y bydd addysgu hanes lleiafrifol ethnig mewn ysgolion ledled Cymru yn cael yr effaith a ddymunir o ran gwella cydlyniant a dealltwriaeth rhwng cymunedau yng Nghymru yn hytrach na lledu'r bwlch rhyngddynt? Ac un is-gwestiwn: pa ddangosyddion perfformiad allweddol y byddwch yn eu rhoi ar waith—gwn eich bod wedi sôn y bydd digon o ddeunyddiau a chymorth ar gael i athrawon, ond pa ddangosyddion perfformiad allweddol y byddwch yn eu rhoi ar waith i fonitro hyn a sicrhau ei fod yn cael yr effaith a ddymunir? Diolch.
Wel, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Ymwelais ag Ysgol Gynradd Mount Stuart i lawr y ffordd o'r fan hon i lansio gwobr Betty Campbell i athrawon a oedd wedi dangos ymrwymiad penodol i amrywiaeth yn y cwricwlwm ac yn yr ystafell ddosbarth, a bûm yn siarad â'r bobl ifanc yno am eu modelau rôl yn eu cymunedau. Roeddent wedi gwneud prosiect lle roeddent yn dathlu cyfraniadau cadarnhaol cymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig i'w cymuned ac i Gymru, ac i'r byd yn wir. Felly, credaf fod angen i'r amrywiaeth fod yn wirioneddol amrywiol—mae angen iddi adlewyrchu'r holl brofiad mewn hanes ond yn y Gymru fodern sydd ohoni hefyd, ac rwy'n hyderus, wrth ddysgu'r gwersi y mae'r Athro Charlotte Williams a'i grŵp wedi ein helpu gyda hwy, a'r gwaith y mae Estyn yn ein helpu gydag ef, y byddwn yn gallu darparu cwricwlwm cyfoethog sy'n sicrhau bod ein holl blant ym mhob rhan o Gymru yn deall amrywiaeth lawn hanes Cymru a'r Gymru fodern.
Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am eich atebion hyd yn hyn. Fel rŷch chi'n gwybod, mae 20 y cant o bobl Caerdydd yn dod o gefndiroedd BAME, ac, fel rŷch chi wedi sôn yn barod, mae'n hollbwysig bod plant y cymunedau yma yn cael eu gweld, eu bod nhw'n cael eu cynrychioli yn y cwricwlwm ac o fewn y sector addysg. Mae hynny'n dangos pwysigrwydd pethau fel gwobr Betty Campbell. Ar 13 Rhagfyr, dwi'n noddi digwyddiad yma yn y Senedd, pan fydd yr awdur du o Gaerdydd Jessica Dunrod, gyda'r Mudiad Meithrin, yn arddangos llyfrau gan awduron du, gyda chymeriadau o wahanol gefndiroedd ynddyn nhw, sydd wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg. A wnewch chi bob ymdrech i ddod i'r digwyddiad yna, Weinidog, ond, yn bwysicach na hynny, a wnewch chi bob ymdrech i hyrwyddo deunyddiau sy'n gynhwysol yn y byd addysg? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rŷn ni yn buddsoddi'n sylweddol iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth i awduron a phobl sy'n darparu adnoddau er mwyn sicrhau bod gan ein hathrawon ni'r deunyddiau sydd eu hangen er mwyn delifro'r cwricwlwm yn y ffordd gynhwysol mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Os ydw i'n rhydd ar y diwrnod hwnnw, byddaf i'n hapus iawn i ddod i'r achlysur. Os wyf i ddim yn digwydd bod yn rhydd, buaswn i'n hapus iawn trefnu achlysur arall i gwrdd gyda hi.