Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn, ac os ydy'r cyfrifoldebau yma yn gyfrifoldebau parhaol newydd, rwy'n ei groesawu fe iddyn nhw hefyd. Mae'r cwestiwn hwn yn un dilys iawn. Er mwyn inni allu ymestyn mynediad pobl i addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n cyrraedd ac yn mynd yn bellach na'r targedau sydd gyda ni ar hyn o bryd o ran recriwtio, a dŷn ni ddim eto wedi gwneud hynny.
Roedd y rhaglen waith gwnes i ei chyhoeddi rai wythnosau yn ôl yn sôn am y cynllun sydd gennym ni ar gyfer strategaeth newydd. Dyw'r atebion ddim yn atebion syml; mae pawb, wrth gwrs, yn cydnabod hynny. Ac mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth gyda'n rhanddeiliaid ehangach er mwyn gwneud cynnydd yn y maes hwn. Felly, rydym ni ar fin cyhoeddi dogfen ddrafft i drafod gyda'n rhanddeiliaid ni. Rydym ni wedi bod yn trafod eisoes gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gyda'r comisiynydd, ond mae eraill hefyd y bydd angen iddyn nhw fod yn rhan o'r sgwrs honno.
Mae amryw o bethau y gellid eu gwneud er mwyn annog pobl i hyfforddi fel athrawon—ei gwneud hi'n haws iddyn nhw wneud hynny, rhoi anogaeth ariannol i bobl wneud hynny. Felly, mae mwy nag un ffordd o fynd i'r afael â hyn. Ond rwy'n credu bod angen edrych ar y gweithlu ehangach hefyd. Rwyf wedi cael trafodaethau diweddar ynglŷn â'r prinder cynorthwywyr dosbarth sy'n gallu siarad Cymraeg, ac mae'n rhaid inni hefyd wneud cynnydd yn y maes hwnnw, a gweld y gweithlu cyfan, fel petai.