Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A fyddai’r Gweinidog yn cytuno â fi mai un o’r pethau pwysicaf sydd angen digwydd er mwyn sicrhau bod mwy o blant yn elwa ar addysg Gymraeg yw sicrhau bod athrawon dwyieithog cymwys ar gael i’w dysgu nhw? Nawr, tra ein bod ni’n cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi bod ers cyfnod y pandemig o ran y nifer sy'n dewis hyfforddi fel athrawon, ar y cyfan mae'r sefyllfa o ran niferoedd yr athrawon Cymraeg yn parhau i fod yn un argyfyngus. Wrth ystyried pwysigrwydd sicrhau cyflenwad digonol o athrawon i'r strategaeth 2050, gyda'r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae'r prinder o dros 300 o athrawon cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd a 500 yn y sector uwchradd yn destun pryder mawr. Ac, mor bell ag yr wyf i'n gallu gweld, does yna ddim strategaeth i fynd i'r afael â hyn. Nawr, rŷch chi a'r Gweinidog addysg blaenorol wedi cyfeirio sawl gwaith at gynllun 10 mlynedd. Felly, a oes modd cael diweddariad ac amserlen i'r cynllun hwn? A'r cwestiwn amlwg i ofyn, wrth gwrs, yw beth yn benodol rŷch chi fel Llywodraeth yn bwriadu gwneud er mwyn denu siaradwyr dwyieithog i'r proffesiwn, neu i ddarparu hyfforddiant iaith digonol i siaradwyr di-Gymraeg er mwyn rhoi'r sgiliau a'r hyder iddyn nhw gyfrannu i'r sector addysg Gymraeg.