Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel gwnes i ddweud wrth ateb Gareth Davies yn fwy diweddar, rŷn ni'n ddibynnol ar gynigion sy'n dod o awdurdodau lleol yn y maes penodol hwn, fel rwy'n gwybod bod yr Aelod yn deall. Ond rŷn ni hefyd yn disgwyl gweld cynlluniau strategol uchelgeisiol gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae pob un o'r awdurdodau lleol yn ei rhanbarth hi wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ar eu cynlluniau nhw. O fewn y cynlluniau hynny, rwy'n gwybod bod ystyriaeth i ysgol uwchradd addysg Gymraeg ar y cyd, ac felly byddwn i'n cefnogi gweld hynny'n digwydd, wrth gwrs, er mwyn darparu ar draws y rhanbarth y ddarpariaeth addysg Gymraeg uwchradd sydd ei hangen ar bobl ifanc yn y rhan honno o Gymru.