– Senedd Cymru am 3:14 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Eitem 4, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf sefyll yma yn y Senedd heddiw i siarad am garreg filltir bwysig i Flaenau Gwent.
Ym 1971, yng nghartref Joyce Morgan o Six Bells, sefydlwyd band tref Abertyleri. Nawr, 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r band yn dathlu eu hanner canmlwyddiant gyda chyngerdd arbennig ddydd Sadwrn yn y Met yng nghanol y dref yn Abertyleri, gyda'r artist gwadd Dan Thomas, sef prif chwaraewr ewffoniwm y band enwog yn rhyngwladol, y Black Dyke Band. Byddaf yno, ac ni allaf aros i glywed y band yn chwarae'n fyw unwaith eto.
Dros y pum degawd diwethaf, mae llawer wedi newid i bobl Blaenau Gwent, ond mae band tref Abertyleri wedi bod yn rhywbeth cyson, cyfarwydd a chysurus drwy gydol y blynyddoedd hynny. Maent wedi bod yn fodd i gerddorion o bob rhan o'r fwrdeistref sirol a thu hwnt fynegi eu hunain. Maent wedi derbyn dysgwyr cwbl newydd, a chyda gwaith caled, ymarfer ac ymroddiad, wedi eu troi'n chwaraewyr gwych.
Yn y cyngerdd ddydd Sadwrn, bydd cyfansoddiad arbennig yn cael ei berfformio am y tro cyntaf, i ddathlu treftadaeth lofaol y cwm, yn ogystal â chofio'r trychineb yng nglofa Six Bells ym 1960 a laddodd 45 o lowyr. Mae'r cyngerdd hwn yn cynrychioli'r hyn y mae sefydliadau fel band tref Abertyleri yn ei wneud orau: dônt â chymunedau ynghyd, gan gadw ein traddodiadau'n fyw wrth gofio ein treftadaeth, ac maent hefyd yn cadw un llygad ar y dyfodol. Gyda hynny mewn golwg, hoffwn ddymuno'r gorau iddynt ar gyfer y cyngerdd y penwythnos hwn, a phob dymuniad da iddynt am yr 50 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr.
Lywydd, eleni, mae Seren Books yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dathlu deugain mlynedd. Seren yw prif gyhoeddwr llenyddol annibynnol Cymru, sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth o bob rhan o'n gwlad. Gyda chyhoeddiadau'n amrywio o farddoniaeth i ffuglen a llyfrau ffeithiol, rwy'n falch o'r gweithiau arobryn y mae'r tîm wedi'u rhoi i ni a'r llwyfan rhyngwladol. I'w dyfynnu yn eu geiriau eu hunain:
'Ein nod yw nid yn unig adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd yn y diwylliant...ond gyrru'r diwylliant hwnnw yn ei flaen, ymgysylltu â'r byd, a chyflwyno llenyddiaeth, celf a gwleidyddiaeth Cymru i gynulleidfa ehangach.'
Ar gyfer y dathliad arbennig hwn, hoffwn dalu teyrngedau arbennig i Cary Archard, sylfaenydd Seren, y gweithiwr cyntaf, Mick Felton, sy'n dal i fod yn rheolwr, golygydd llyfrau ffeithiol a golygydd ffuglen, ac yn olaf, golygydd barddoniaeth Seren, Amy Wack, sy'n rhoi'r gorau i'r swydd y mis hwn ar ôl dros 30 mlynedd. Ymroddiad eich tîm i grefft llenyddiaeth sy'n gyfrifol am lwyddiant Seren. A gadewch imi sôn hefyd am ein llenorion ein hunain o Ben-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl y cyhoeddwyd eu gwaith gan Seren: Rhian Edwards, y mae ei chasgliadau'n cynnwys Clueless Dogs a The Estate Agent's Daughter; Robert Minhinnick, bardd, nofelydd, awdur ysgrifau ac ymgyrchydd amgylcheddol lleol, a Kristian Evans, awdur, sydd wedi golygu casgliad o gerddi, gyda Zoë, o’r enw 100 Poems to Save the Earth, sy'n addas iawn yn ystod COP26 yn fy marn i.
Felly, wrth inni ddathlu 40 mlynedd, gwn y gallwn edrych ymlaen at weld llawer mwy o unigolion talentog ac ymroddedig a'u gwaith yn cael ei gyflwyno i ni drwy Seren Books.
Am 5.13 p.m. ddydd Iau 8 Tachwedd 2001, byddai llawer o bobl ledled Cymru wedi bod yn cael eu te. Fodd bynnag, ym Mhort Talbot, roedd yn foment a syfrdanodd y gwaith dur a'r cymunedau cyfagos, wrth i ffrwydrad ddigwydd yn Ffwrnais Chwyth Rhif 5. Roedd y ffrwydrad mor bwerus, fe gododd y ffwrnais, a oedd yn pwyso oddeutu 5,000 tunnell, dros 0.75 metr i'r awyr, cyn cwympo yn ôl i'w le. Y noson honno, lladdwyd tri o weithwyr dur, anafwyd 12 o weithwyr yn ddifrifol a chafodd nifer o rai eraill fân anafiadau. Aeth y tri dyn a fu farw—Andrew Hutin, 20 oed, Stephen Galsworthy, 25 oed a Len Radford, 53 oed—fel pob un o’r gweithwyr dur, i'r gwaith y diwrnod hwnnw gan ddisgwyl mynd adref ar ddiwedd eu shifftiau, ond golygodd y digwyddiad trasig hwn nad aethant byth adref. Mae eu marwolaethau'n ein hatgoffa o'r peryglon y mae gweithwyr dur yn eu hwynebu bob dydd.
Nododd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
'er bod canlyniad y ffrwydrad yn ddigynsail yn y diwydiant cynhyrchu dur'— roedd—
'yn ganlyniad i nifer o fethiannau rheoli diogelwch... dros gyfnod estynedig.'
Ugain mlynedd yn ddiweddarach, rhaid inni beidio ag anghofio'r tri gweithiwr dur na'r hyn a achosodd eu marwolaethau. Mae'n ddyletswydd arnom fel gwleidyddion i wneud popeth a allwn i sicrhau nad slogan yn unig yw diogelwch yn y gwaith, ond hawl a disgwyliad gan bob gweithiwr, boed hynny mewn gwaith dur, ffatri neu unrhyw leoliad arall. Bydd y digwyddiad trasig hwn yn byw nid yn unig gyda gweithwyr dur a phobl Port Talbot, ond mae'n rhaid iddo fyw gyda phob un ohonom ninnau. Heddiw, rydym yn cydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau Andrew, Stephen a Len, ac rwy’n galw ar bob un ohonoch i beidio ag anghofio amdanynt.
Diolch yn fawr i chi i gyd. Byddwn ni nawr yn cymryd egwyl fer ar gyfer paratoi newidiadau yn y Siambr, a byddwn ni'n canu'r gloch dwy funud cyn inni ailgychwyn.