Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Wrth i fenywod ifanc dyfu i fyny, cawn ein dysgu i fod yn ofalus, i osgoi rhai sefyllfaoedd, pobl, gwisgoedd, i gyfyngu ar y pethau a wnawn a'r gofod a ddefnyddiwn, i beidio â cherdded adref ar ein pen ein hunain, i beidio ag yfed gormod, i beidio ag ymddwyn mewn ffordd a fyddai'n denu sylw diangen, a phan fyddwch allan gyda ffrindiau, cadwch eich llaw dros eich diod, a pheidiwch â gadael diod ar y bwrdd os ydych yn mynd i'r toiled neu at y llawr dawnsio, nid am ein bod yn poeni y bydd rhywun yn dwyn y ddiod, ond am ein bod yn poeni y bydd rhywun yn ei sbeicio, yn rhoi rhywbeth ynddi a fydd yn troi'r noson yn hunllef. Oherwydd dyna sy'n cael ei ddysgu i ni. Cawn ein hyfforddi i ragweld perygl, i lywio ofn, i fyw ein bywydau mewn ffyrdd sy'n cael eu fframio gan y perygl posibl hwnnw, a dyma lle y ceir rhaniad cymdeithasol anochel ym mhrofiadau pobl, oherwydd bydd yr holl bethau y soniais amdanynt yn rhyfeddol o gyfarwydd, yn ystrydebol hyd yn oed, i'r holl fenywod sy'n gwrando, ond i ddynion, byddai gwneud rhywbeth fel hyn yn brofiad dieithr yn naturiol, oherwydd fel cymdeithas rydym yn rhoi'r cyfrifoldeb ar fenywod i gadw eu hunain yn ddiogel, nid ar ddynion i roi'r gorau i ymosod ar fenywod.
Credaf fod llawer o'r syniadau a gyflwynwyd yn y cynnig—yn syniadau Cymdeithas Diwydiannau'r Nos ynglŷn â darparu caeadau ar gyfer poteli a gorchuddion diodydd yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid mewn tafarndai a bariau—ond cuddio'r broblem y mae gweithredu o'r fath ar ei ben ei hun yn ei wneud. Yn yr un modd, byddwn yn croesawu camau pellach i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon sbeicio diodydd ac edrych ar fwy o gyllid ar gyfer hyfforddiant ar y perygl i swyddogion diogelwch a staff bar. Ond yn y pen draw, Ddirprwy Lywydd, rydym yn dal i sôn am reoli'r broblem yn hytrach na'i dileu.
Mae'n annhebygol iawn y bydd goroeswyr sbeicio yn cael cyfiawnder. Mae'n rhaid cynnal profion tocsicoleg o fewn 12 i 72 awr, ond yn aml mae'n anodd canfod y cyffuriau a ddefnyddir—nid oes unrhyw arogl, na blas, na lliw yn perthyn iddynt. Erbyn i'r goroeswr adrodd beth sydd wedi digwydd, maent yn aml wedi diflannu o'r corff. Yn fwy na hynny, mae goroeswyr sbeicio wedi siarad am y gymnasteg meddyliol y mae'n rhaid iddynt ei ddioddef, wrth fynd yn ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau heddlu ac ysbyty i gael y profion. Yn rhy aml, mae goroeswyr yn teimlo eu bod wedi'u diystyru gan yr heddlu neu'n teimlo na chânt eu credu—rhywbeth a glywsom eisoes yn y ddadl heno. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag ysbytai a heddluoedd i sicrhau y ceir ymarfer safonol o ran y ffordd yr adroddir am ddigwyddiadau fel hyn a sut y cânt eu trin. Mae'n rhaid cefnogi goroeswyr yn well.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwrthod derbyn y dylai llywio perygl fod yn rhan annatod o fywyd i fenywod. Nid oes unrhyw beth cynhenid am drais gwrywaidd yn erbyn menywod, am fygythiadau i ddiogelwch menywod. Rydym wedi ein cyflyru i dderbyn bod y risg yno ac i weithredu yn unol â hynny. Felly am y tro, wrth gwrs y dylem godi ymwybyddiaeth, dylem ddarparu cymorth ac ystyried darparu caeadau ar gyfer poteli a gorchuddion diodydd a dulliau eraill o helpu menywod i deimlo'n ddiogel, ond ni fydd menywod yn ddiogel mewn gwirionedd nes inni fynd at wraidd y mater a rhoi sylw i pam fod rhai dynion yn tyfu i fyny i sbeicio diodydd menywod, i ddilyn menywod adref, i aflonyddu arnynt ar y strydoedd, i chwibanu a gweiddi arnynt, i gam-drin menywod ar-lein, i ymosod ar fenywod, i'w tawelu. Ni all gorchuddio diod ddileu'r broblem, problem sydd mor gyffredin fel ein bod wedi rhoi'r gorau i gydnabod na ddylai fod yn normal hyd yn oed, problem sy'n golygu fod yna ddisgwyliad na sonnir amdano, pan fydd menywod yn mynd allan gyda'r nos, y byddwn yn anfon neges destun at ein ffrindiau benywaidd pan fyddwn yn y tacsi, pan fyddwn wedi cyrraedd adref; y profiadau a rennir nad oes yr un ohonom eisiau eu cael, ond eto sy'n dal i'n cysylltu. Ni ddylai polisi a gwleidyddiaeth orfod meddwl am leihau risg hollbresennol. Ni ddylai'r risg fod yn normal.