Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau am yr holl bwyntiau dilys a phwysig y maent wedi'u codi hyd yma yn y ddadl hon, a thalu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Joyce, am siarad am ei phrofiad personol.
Mae sbeicio diodydd mewn tafarndai a chlybiau nos wedi bod yn broblem ers peth amser. Er y gallai unrhyw un gael eu heffeithio, fel y clywsom eisoes, menywod sy'n dioddef hyn yn bennaf. Mae'n broblem mor ddrwg fel bod pobl ifanc fwyfwy, yn enwedig menywod, yn ofni mynd allan. Yn Abertawe, er enghraifft, mae eisoes wedi ysgogi ymateb trefnedig gan fyfyrwyr prifysgol, pan gynhaliwyd Big Night In ar 24 Hydref eleni, fel y nodwyd eisoes gan Aelodau eraill yn y Siambr hon, i annog myfyrwyr i beidio â mynd allan i glybiau nos ar ddiwrnod prysuraf yr wythnos yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth a gorfodi clybiau nos i fynd i'r afael â'r broblem.
Yn anffodus, y brif broblem gyda sbeicio yw'r anhawster, fel y clywsoch eisoes, i ddal ac erlyn y bobl a gyflawnodd y drosedd. Defnyddir sawl dull i sbeicio diodydd, ond y mwyaf cyffredin yw ychwanegu alcohol at ddiodydd nad ydynt yn rhai alcoholaidd neu ychwanegu alcohol ychwanegol at ddiodydd sydd eisoes yn rhai alcoholaidd. Prin iawn yw'r erlyniadau o ystyried nifer yr achosion, a hynny'n bennaf am nad oes llawer o dystiolaeth i brofi bod sbeicio wedi digwydd. Mae angen profion gwaed o fewn cyfnod byr wedi i'r sbeicio ddigwydd i allu darparu tystiolaeth, ac mae llawer o bobl yn teimlo nad yw'r heddlu a gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhoi ystyriaeth ddigon difrifol i'r hyn a ddywedant am sbeicio honedig—yn y bôn eu bod wedi yfed gormod, neu na allant ddal eu diod.
Mae maint y broblem yn destun pryder fel y datgelodd arolwg a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Addysg Alcohol. Canfu'r arolwg o 750 o bobl fod 35 y cant o ddiodydd wedi cael eu sbeicio mewn partïon preifat, a 28 y cant mewn clybiau nos, 13 y cant mewn bariau, a 7 y cant mewn gwyliau. Dywedodd cynifer ag un o bob saith menyw rhwng 16 a 25 oed eu bod wedi'u targedu, er bod 92 y cant o'r dioddefwyr wedi dewis peidio â rhoi gwybod i'r heddlu am eu profiadau. O'r rhai a wnaeth, datgelodd yr arolwg nad oedd dim wedi digwydd o ganlyniad. Mae'r diffyg erlyniadau troseddol am sbeicio diodydd wedi gwneud y troseddwyr mor hyderus nes eu bod bellach wedi dechrau chwistrellu pobl. Mae'n ymddangos bod yr ymddygiad hynod ofidus hwn yn dod yn fwy cyffredin, ac oherwydd bod y nodwyddau'n cael eu hailddefnyddio dro ar ôl tro, mae hefyd yn cynyddu'r risg y bydd dioddefwyr yn dal clefydau fel HIV a hepatitis.
Er y gall sbeicio diod arwain at ddedfryd o hyd at 10 mlynedd o garchar, y broblem yw gallu'r heddlu i ddal pobl yn sbeicio mewn modd dibynadwy ac i erlyn yn unol â hynny. Mae hyn yn parhau i fod yn anodd eithriadol, a hyd nes y rhoddir system briodol ar waith, credaf y bydd dynion a menywod yn parhau i ddioddef yn sgil y drosedd ffiaidd hon. Ar hyn o bryd, mae sbeicio diodydd ar flaen meddyliau pobl oherwydd sylw diweddar ar y cyfryngau. Yn naturiol, bydd pobl yn dod yn fwy gwyliadwrus yn y tymor byr; fodd bynnag, dim ond gwthio'r bobl sy'n sbeicio diodydd i'r cysgodion y mae hyn yn ei wneud. Gydag amser, a'r cyfryngau'n colli diddordeb yn y broblem, byddant yn dychwelyd. Mae sbeicio diodydd wedi bod yn broblem ers amser maith, ac mae angen rhoi ateb hirdymor ar waith. Rhaid inni ofyn i ni'n hunain pa raglenni sydd ar waith i addysgu rhai yn eu harddegau a phobl ifanc am y perygl, ond hefyd i dynnu sylw at agweddau ac ymddygiad amhriodol tuag at fenywod.
Beth y mae clybiau nos a thafarndai wedi'i wneud i helpu i gael gwared ar y broblem? Mae diodydd â chaeadau yn ateb tymor byr amlwg, ond hyd nes y bydd yn orfodol, dim ond ateb tymor byr fydd hynny i leddfu'r pryder presennol. Mae angen gosod systemau teledu cylch cyfyng gwell yn ein clybiau nos a'n tafarndai, gwella mynediad at gyfleusterau profi, a gwella ffyrdd o gasglu tystiolaeth i nodi patrymau ymddygiad ailadroddus. Oni bai bod ewyllys wleidyddol i wneud newidiadau hirdymor, bydd hyn yn parhau i fod yn risg barhaus i'n pobl ifanc am beth amser, a dyma pam y mae angen inni gefnogi'r ddadl hon a rhoi camau cadarn ar waith i fynd i'r afael â'r broblem. Diolch.