6. Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 4:26, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Lywydd, Deddf Pysgodfeydd y DU 2020 sy'n darparu'r fframwaith ar gyfer polisi pysgota'r DU ar ôl Brexit. Mae'r Ddeddf yn ymestyn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd i gynnwys holl ddyfroedd Cymru, a elwir yn barth Cymru. Felly, yn amlwg, mae hwn yn gyfle euraidd i adfywio'r diwydiant a datblygu strategaeth i'w symud ymlaen. Nawr, ymgynghorodd Llywodraeth flaenorol Cymru ar bolisïau morol a physgodfeydd ar ôl Brexit, ymgynghoriad a elwir yn 'Brexit a'n Moroedd' yn 2019. Mewn datganiad ysgrifenedig i fynd gyda'r crynodeb o'r ymatebion, dywedodd y Gweinidog hyn:

'Rhaid inni ddatblygu polisi cynaliadwy sy’n seiliedig ar ecosystemau ac yn cyd-fynd â phob polisi morol arall.'

Felly, yn amlwg, yn y Senedd flaenorol, roedd ymrwymiad cryf i ddatblygu polisi pysgodfeydd cynaliadwy.