6. Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 4:29, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Nawr, is-adran y môr a physgodfeydd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli pysgodfeydd morol yn nyfroedd Cymru. Mabwysiadwyd y model cyflawni canolog hwn dros 10 mlynedd yn ôl. Rhagwelwyd y byddai'r model cyflawni cyfunol newydd yn rhoi cyfle i ddefnyddio adnoddau'n well, yn darparu dull cydlynol o reoli pysgodfeydd Cymru ac yn gwella cyfranogiad y diwydiant pysgota yn y broses o wneud penderfyniadau.

Yn anffodus, er gwaethaf yr ymdrechion gorau, ni wireddwyd manteision canfyddedig y model canolog hwn, er bod cyllidebau ac adnoddau dynol o fewn yr is-adran wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf. Mae'r adran wedi bod heb strategaeth gyfredol na chynllun mesuradwy i reoli pysgodfeydd yn gydlynol ers 2014. Ac i waethygu'r sefyllfa, ar hyn o bryd nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fecanwaith ymgysylltu'n ffurfiol â rhanddeiliaid gyda'r sector.