6. Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 4:30, 10 Tachwedd 2021

Rhaid dweud felly fod yr effeithiau ar y diwydiant pysgota o adael yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd ag arafwch wrth ddarparu gwell rheolaeth ar bysgodfeydd, yn gwneud dyfodol pysgota môr yng Nghymru yn hynod o ansicr, sydd yn bryder mawr, wrth gwrs.

Felly, pa fath o uchelgais sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu sector bywiog, cynaliadwy a gwydn yn economaidd ar gyfer y dyfodol o ystyried y dirywiad amlwg yn nifer y pysgod sy’n cael eu glanio ym mhorthladdoedd Cymru dros y pum mlynedd diwethaf?

Y gwir amdani yw bod tanfuddsoddiad cronig wedi bod yn y sector dros nifer o flynyddoedd. Ar wahân i fuddsoddiad mewn seilwaith yn nociau pysgod Aberdaugleddau saith mlynedd yn ôl, mae lefel y gefnogaeth ariannol wedi bod yn ofnadwy o isel. Hefyd, mae pryder bod y fflyd o longau sy'n heneiddio o flwyddyn i flwyddyn yn gwegian oherwydd diffyg buddsoddiad.