6. Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 4:31, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi droi yn awr at ddyframaethu. Wrth i'r galw am fwyd môr gynyddu, mae technoleg wedi'i gwneud hi'n bosibl tyfu bwyd mewn dyfroedd morol arfordirol a'r cefnfor agored. Mae dyframaethu'n ddull a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd a chynhyrchion masnachol eraill, adfer cynefinoedd ac ailgyflenwi stociau gwyllt, ac ailboblogi rhywogaethau sydd dan fygythiad ac mewn perygl.

Mae'r Gweinidog eisoes wedi nodi cyn toriad yr haf ei bod wedi ymrwymo i gyflawni'r targedau strategol ar gyfer dyframaethu a osodwyd ar gyfer 2013 i 2020. Er enghraifft, pysgod cregyn—y targed oedd dyblu cynhyrchiant o 8,000 tunnell i 16,000 tunnell, ond mae'n amlwg ein bod ymhell islaw'r llinell sylfaen honno hyd yn oed cyn COVID a chyn Brexit.