Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Arfon am gyflwyno'r cynnig hwn y prynhawn yma ar ran grŵp Plaid Cymru. Yr wythnos diwethaf, codais yma i hyrwyddo'r angen am gydweithredu, partneriaeth a gwaith tîm wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r wlad hon. Ac yn wir, heddiw, rwyf fi a fy nghyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig yma yn arddel yr un ymagwedd gydweithredol. Dyna pam y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.
Rwy’n falch hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod gwerth cynnig gan wrthblaid, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddadl y prynhawn yma'n rhoi cipolwg o leiaf ar yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio ar y cyd.
Nawr, fel y crybwyllodd yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gwbl gywir yn ei araith agoriadol, mae Cymru'n meddu ar gyfoeth o adnoddau, potensial a chyfleoedd, a gellir targedu a defnyddio pob un ohonynt i gefnogi a thyfu ein diwydiant dyframaethu a physgodfeydd. Rwyf hefyd yn falch fod yr Aelod wedi tynnu sylw at y cyfleoedd newydd i bysgodfeydd Cymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd; fodd bynnag, er mwyn gallu teimlo'r manteision hynny, mae'n gwbl briodol fod Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid allweddol y diwydiant, o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, i ddatblygu strategaeth pysgodfeydd a dyframaethu sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, buddsoddiad a diwydiant.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cofio fy nghwestiwn cyntaf un iddi ar faterion gwledig, mewn perthynas â datganiad a wnaeth mewn digwyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o'r Wythnos Bwyd Môr yn 2016. Yn y digwyddiad hwnnw, cyhoeddodd fwriad Llywodraeth Cymru i ddyblu cynhyrchiant dyframaethu morol erbyn 2020. Ers hynny, nid yw cynllun morol 2019 Llywodraeth Cymru na'r adroddiad dilynol yn 2020 wedi crybwyll na mynd i’r afael â’r nod hwn, ac, yn ei hateb i mi, nododd y materion sydd ynghlwm wrth gyrraedd ein targed allforio bwyd môr. Er fy mod yn dal i bryderu cryn dipyn ynglŷn â hyn, ac yn deall y materion a gododd y Gweinidog mewn perthynas â'r materion allforio ar ddechrau'r flwyddyn, rwy'n hyderus y bydd y cynnig hwn heddiw'n sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ei hymdrechion i ymroi i sicrhau bod y targed hwn yn cael ei gyrraedd.
Ond gadewch inni beidio ag anghofio y bydd manteision diwydiant pysgodfeydd a dyframaethu cryf a chynaliadwy yn cyrraedd pob cornel o Gymru. Yn fy etholaeth i, er enghraifft, mae'r cwmni wystrys yr Iwerydd yn Angle yn arwain y ffordd drwy ddatblygu dulliau adfer ar gyfer wystrys brodorol sir Benfro. Yn hytrach na dim ond eu tynnu o'r môr, mae Atlantic Edge Oyster, dan arweiniad Dr Andy Woolmer a chyda chymorth Ben Cutting, yn gweithio i adfer niferoedd wystrys oddi ar arfordir sir Benfro, ac yn ogystal â chael gwared ar ormodedd o faethynnau o'n dyfroedd, mae hyn hefyd yn darparu cynefin gwell ar gyfer ecosystem iachach i fywyd morol arall. Mae'r wystrys hefyd yn cael eu gwerthu mewn bwytai ledled Cymru, sydd unwaith eto'n dangos eu budd i'n heconomi.
Yn wir, ni ddylem ychwaith fychanu'r rhan y gall dyframaethu ei chwarae yn helpu i gyflawni ystod eang o nodau a thargedau cynaliadwyedd. Mae ymchwilwyr ym mhrifysgol Queen's, Belfast yn datblygu treial tair blynedd i geisio gwerthuso'r defnydd o wymon y DU i helpu i leihau allyriadau methan mewn gwartheg. Fodd bynnag, yn ogystal â lleihau allyriadau methan—ac rydym wedi clywed llawer am hyn yn sgil y COP26 dros y pythefnos diwethaf—yn ôl adroddiadau cynnar gall bwyta'r gwymon wella iechyd gwartheg a gwella ansawdd y cig a'r llaeth y maent yn ei gynhyrchu. Mae'n brosiect arloesol arall heb gyfyngiad ar ei ddefnydd yn y gadwyn gyflenwi, ac mae'n dod ag ystyr newydd iawn i'r ymadrodd surf and turf.
Ac rwyf wedi gweld manteision prosiectau tebyg yn uniongyrchol, wrth imi ymuno â fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Breseli Sir Benfro ar ymweliad â Câr-y-Môr, fferm wymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf Cymru. Mae'r prosiect ffermio heb ychwanegion hwn yn defnyddio mwynau naturiol a maethynnau'r môr Celtaidd, gan gael gwared ar yr angen am wrtaith a phlaladdwyr, ac mae hefyd yn gwella ein hamgylchedd arfordirol, yn hybu bioamrywiaeth ddyfrol ac yn ysgogi twf swyddi, gan gynnig llwybr uniongyrchol i bobl ifanc i mewn i sector dyframaeth gwirioneddol integredig yng Nghymru. Er bod gan lawer o'r gwymon sy'n cael ei dyfu gyrchfan a gwerth masnachol penodol, nid yw peth o'r gwymon sy'n cael ei dyfu yn addas ar gyfer y farchnad fanwerthu, ond mae'n gwbl addas fel ychwanegyn mewn bwyd gwartheg. Nid oes yn rhaid inni edrych ymhellach na'n dyfroedd naturiol am syniadau addawol a phrosiectau arloesol. Fodd bynnag, mae angen cymorth Llywodraeth Cymru arnynt, yn hytrach na'u bod yn ôl-ystyriaeth mewn polisïau.
Rwy’n cymeradwyo Plaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Dylem roi ein cefnogaeth lawn i'n diwydiant pysgota a dyframaethu, a dylem fod yn datblygu polisi ag iddo fanteision pellgyrhaeddol, diamheuol i ystod gyfan o sectorau eraill, yn economaidd ac yn amgylcheddol. Diolch yn fawr.