Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Mi oedden ni ar bwrpas yn rhoi sgôp eithaf eang i'r cynnig yma heddiw achos rydyn ni'n credu bod yna sgôp eang i ddod â budd i Gymru drwy gael strategaeth glir ac uchelgeisiol, wedi ei chefnogi'n ariannol yn iawn, er mwyn datblygu pysgodfeydd a'r diwydiant pysgod a physgota yn gyffredinol. Ac mi allai'r budd ddod ar sawl ffurf—budd economaidd yn sicr yn gyntaf o ran cynhyrchu incwm, dod â buddsoddiad i mewn a chreu swyddi ac ati. Roedd Cefin yn sôn yn benodol am botensial aquaculture. Mae'r potensial i ddatblygu ffermio pysgod ar y tir yn enfawr. Mae'r arbenigedd sydd y tu ôl i ddatblygiadau y clywsom ni'n cael eu crybwyll ym Mhenmon yn Ynys Môn yn arbenigedd a allai arwain at ddatblygiadau eraill—ffermio pysgod i'w bwyta. Ffermio pysgod glanhau maen nhw ym Mhenmon ar hyn o bryd, sy'n rhan o'r broses o bysgota eog yn gynaliadwy, ond mi allai'r un arbenigedd ddatblygu mewn ffermio pysgod i'w bwyta hefyd.
Mi fues i mewn darlith y noson o'r blaen ar botensial ffermio'r cimwch pigog—dwi wedi dysgu lot am y cimwch pigog yr wythnos yma. Mae'r gwaith yn digwydd yng Nghymru rŵan i ddatblygu'r arbenigedd i ffermio hwnnw'n fasnachol, ond mae'r datblygwyr yn bwriadu mynd â'r arbenigedd yna efo nhw i Ffrainc neu'r Eidal, oherwydd diffyg hyder y buasen nhw'n cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Ydy'r Gweinidog wir yn barod i adael i'r arbenigedd yna adael Cymru, ynteu ydy hi eisiau gweld hwn yn rhywbeth y gallwn ni fuddsoddi ynddo fo? I roi syniad ichi, maen nhw wedi cyhoeddi eleni fuddsoddiad allai arwain at ddiwydiant newydd gwerth $160 miliwn yn Awstralia—$160 miliwn yn flynyddol—i ffermio cimwch. Ydyn ni eisiau hynny yn fan hyn ynteu a ydyn ni am adael i hynny lithro o'n dwylo ni? A gyda llaw, gaf i estyn gwahoddiad i'r Gweinidog i ddod i Benmon i weld y gwaith rhagorol sy'n digwydd yno?
Mae yna fudd cymunedol hefyd, nid dim ond drwy greu hyfywedd cymunedol mewn ardaloedd arfordirol trwy greu swyddi mewn datblygiadau fel yna, neu wneud y diwydiant sydd yna'n barod yn fwy cynaliadwy a'i helpu fo i dyfu, ond mae yna fodd yma i atgyfnerthu ein treftadaeth forwrol ni, sydd o bosibl ddim mor ddwfn ag y mae o mewn ardaloedd o Gernyw neu'r Alban, ond mae o yno, mae o'n bwysig, yn cynnwys mewn rhannau o fy etholaeth i. Mae hyn yn rhan o'r apêl a beth dwi, Cefin ac eraill wedi bod yn galw amdano fo drwy ofyn am gefnogaeth y Llywodraeth i raglen catch and release ar gyfer tiwna bluefin yn ddiweddar, rhywbeth sy'n mynd i fod yn digwydd yn nyfroedd gweddill yr ynysoedd yma, ond nid Cymru. Ac rydyn ni'n colli cyfle yn y fan honno, a dwi ddim yn deall yn iawn pam mae'r Llywodraeth yn methu â chroesawu hynny fel rhywbeth fyddai'n gam amgylcheddol gwerthfawr ac yn rhywbeth allai ddod â budd i'n cymunedau arfordirol ni.
I gloi, rydyn ni angen strategaeth, fel rydyn ni wedi ei glywed. Mae fy etholwyr i, er enghraifft yn y sector cregyn gleision, wedi bod yn sgrechian am strategaeth ers blynyddoedd, yn chwilio am fuddsoddiad a chefnogaeth ar gyfer prosesu'r cregyn gleision, er enghraifft. Mi oedd yr alwad honno am strategaeth yn gryf cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs mae o'n fwy pwysig byth rŵan ar ôl i'w diwydiant nhw, eu sector nhw, gael ei chwalu yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ond mi gafodd, fel rydyn ni wedi clywed, strategaeth ei lansio nôl yn niwedd 2016. Mi oedd yna addewid am ychydig, ond mi ddaeth hynny i stop. Roedd yna dargedu wedi digwydd, â thargedau'n cael eu gosod ar gyfer tŵf sylweddol yn y sector, ond heb gael strategaeth sydd yn weithredol, heb greu capasiti, mae gen i ofn, yn adran pysgodfeydd Llywodraeth Cymru, heb eglurder ar gyllid—a dwi'n meddwl mai gwael iawn oedd ein profiad ni o ran sut roedd cyllid Ewropeaidd yn cael ei wario yma, er enghraifft—a heb engagement byw a brwdfrydig y Gweinidog ei hun, fydd gennym ni ddim sector ar ôl i'w dyfu, dwi'n ofni.