Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Janet. Mae'r diwydiant pysgota yn un andros o bwysig i'n cymunedau ni yng Nghymru, ac i gymunedau Dwyfor Meirionnydd. Mae gan y sector botensial aruthrol ac mae'n syndod cyson i mi nad ydy'r Llywodraeth yn gwneud mwy i fuddsoddi yn y sector a sicrhau ei hyfywedd. Ces i'r fraint o fynd i bysgota cimychiaid a chrancod efo Sion Williams allan o Borth Colmon dros yr haf, a gweld y cyfraniad rhyfeddol roedd ei waith o yn ei wneud i'r economi leol, ond yn fwy na hynny, i'r gymuned leol, wrth iddo ddarparu bwyd rhagorol o ansawdd, yn iach ac yn llawn protein i gyflenwyr lleol.
Rŵan, mae'r ddadl y prynhawn yma yn galw am ddatblygu polisi pysgodfeydd a dyframaethu ymhellach. Os oes yna un ystadegyn sy'n dangos y gwendid syfrdanol yn y system bresennol a pham bod taer angen polisi llawer cliriach a chryfach, yna mi wnaf i sôn wrthych chi am yr ystadegyn hwnnw. Mi ddaru Cefin ynghynt sôn am faint o bysgod sy'n cael eu glanio ym mhorthladdoedd Cymru, ond o ran y pysgod sy'n cael eu glanio o foroedd Cymru, wyddoch chi fod yna 83,000 tunnell o fwyd yn cael ei lanio o foroedd Cymru—83,000—ac o'r 83,000 yna, fel dywedodd Cefin reit ar ddechrau'r drafodaeth, mae tua 4,000 neu weithiau 8,000 tunnell yn cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru? Hynny ydy, mae llai na 10 y cant o gynnyrch moroedd Cymru yn rhoi budd economaidd uniongyrchol i gymunedau Cymru. Dyna ydy'r diffiniad o economi echdynnol. Pa ddiwydiant arall fyddai'r Llywodraeth yn caniatáu i hyn ddigwydd iddo?
Ond mae hefyd yn dangos y potensial aruthrol sydd yna i ddatblygu sector cynhenid, llewyrchus all chwarae rhan ganolog mewn adfywio cymunedau glan morol, gan roi swyddi o ansawdd sydd yn darparu cynnyrch iach a chynaliadwy. Wrth siarad efo pysgotwyr ar hyd a lled Cymru, eu pryder ydy nad oes yna symud ymlaen wedi bod yn y sector ers dros 10 mlynedd. Yr un ydy'r heriau a'r problemau sydd yn wynebu'r sector heddiw a oedd yn ei wynebu 10 mlynedd a rhagor yn ôl.
Ystyriwch reoleiddio pysgodfeydd. Mae yna ddiffyg aruthrol yn y maes yma. Mae pysgotwyr yn cymryd camau rhagweithiol i gasglu data a gwella eu harferion drwy gydweithio efo cyrff cyhoeddus, efo prifysgolion, er mwyn datblygu'r sector, ond dydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn unrhyw un o raglenni'r Llywodraeth. Mae'r diwydiant yn galw allan am bolisïau a systemau rheoleiddio cadarn, er mwyn eu galluogi i ddatblygu adnodd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a chryfhau'r brand Cymreig ac, yn ei dro, cryfhau gwerth y brand hwnnw. Er enghraifft, does yna ddim un rheolaeth gynaeafu ar hyn o bryd. Mi ddylai'r Gweinidog ddod allan efo fi at Sion Williams a mynd o Borth Colmon ar y cwch er mwyn gweld yr arfer da y mae Sion yn ei ddatblygu yno. Roedd unrhyw gimwch oedd o'n ei ddal a oedd yn llawn wyau yn cael ei roi yn ôl yn syth i'r môr. Mae disgwyliad o ran rhoi cimychiaid o dan ryw faint arbennig yn ôl i'r môr, ond does yna ddim cyfyngiad ar faint o gimychiaid mae hawl i'w cymryd o'r môr. Rŵan, chwarae teg i Sion am fod yn bysgotwr cydwybodol, ond eto does dim disgwyliad iddo wneud hyn.
Mae cregyn bylchog nid yn unig yn andros o flasus, ond hefyd yn doreithiog ym mae Ceredigion, ac yn cyfrannu'n sylweddol at y cynnyrch sy'n cael ei lanio gan bysgotwyr Cymru. Tra bod yn rhaid i'r sawl sydd â hawl pysgota cregyn bylchog gael trwydded i wneud hynny, gallai'r pysgotwr ddefnyddio un cwch neu 100 o gychod. Unwaith eto, does yna ddim rheolaeth ar y cyniwair.
Bydd rhai yn cyfeirio at yr ap Catch newydd sydd yn cael ei ddefnyddio i recordio a monitro data pysgod a laniwyd, ac mae hwnnw yn ddatblygiad cyffrous, ond dydy o ddim yn dangos y darlun cyfan, chwaith. Dydy o ddim yn dangos pa bysgod a luchiwyd yn ôl i'r môr, er enghraifft, a fyddai'n galluogi'r awdurdodau i gael darlun cliriach o iechyd ein moroedd a pha gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau rheolaeth er lles dyfodol y diwydiant. Mae diffyg rheolaeth, felly, ar gyniwair cynnyrch y môr yn un enghraifft o'r gwendidau sylfaenol sydd yn y system.
Yn elfennol, mae'r drefn bresennol yn methu ein pysgotwyr a'n moroedd. Fel y saif pethau, mae'r cyfan yn cael ei reoli yn uniongyrchol gan y Llywodraeth, ac mae'n berffaith amlwg erbyn hyn nad ydy hynny'n ddigonol, na chwaith yn bosibl i'w weithredu'n llawn. Yn wahanol i'r sector cig coch, lle mae gennych chi Hybu Cig Cymru yn gwneud gwaith ardderchog, neu wrth drafod adnoddau naturiol megis y tir a'r dŵr, mae gennym ni Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio, does yna ddim un corff allanol yn goruchwylio'r sector pysgodfeydd a dyframaethu. Dyma dwi'n ei glywed yn gyson gan y sector yma, a dyma pam ein bod ni wedi rhoi'r cynnig yma ymlaen heddiw.
Ac yn olaf, jest i'ch hysbysu chi y byddaf i'n sefydlu grŵp trawsbleidiol newydd ar bysgodfeydd a dyframaethu ymhen rhai misoedd, a dyma wahoddiad, felly, i unrhyw Aelod ymuno â'r grŵp yn y flwyddyn newydd, pan fydd o'n cael ei sefydlu. Diolch.